‘Bullying is so gay’

Mae disgyblion LHDTC+ yn fwy tebygol o gael eu bwlio yn yr ysgol, ac er gwaethaf yr holl waith i wella cydraddoldeb dydy’r ystadegau ddim yn gwella. Yn y seminar yma byddwn yn edrych ar y rhesymau pam fod bwlio’n cymryd lle, a’r camgymeriadau sydd yn aml yn cael eu gwneud wrth ddelio wrth â … Continued

Y Plentyn ‘Ffrwydrol’! Rheolaeth dicter ar gyfer ysgolion a cholegau

Mae’r sesiwn wedi’i chynllunio i roi cipolwg ar nodweddion a seicoleg dicter ac edrych a deall beth sy’n sbarduno dicter. Yn ogystal, fe gewch adnoddau, technegau a strategaethau ymarferol i reoli a delio’n saff hefo rhai disgyblion/ myfyrwyr a sefyllfaoedd. Bydd y sesiwn yma drwy gyfrwng Saesneg. Addas i bawb.

Llafaredd- Addysgu o Obaith a Gweithredu

Bydd Hywel yn edrych ar y canlynol: • Adrodd storïau a dysgu: sôn am yr ymchwil i sut mae storïau’n ymgysylltu a symbylu’r dysgwyr • Cynnwys arferion cyffrous drwy addysgeg Drama i fod o gymorth i ddealltwriaeth ar draws y Cwrwicwlwm • Hybu llafaredd gwych ar draws sbectrwm y cwricwlwm • Symud o ennyn diddordeb … Continued

Creadigrwydd Digidol ar draws y Cwricwlwm

Mae cynnwys digidol yn cynnwys cynhyrchu testun, graffeg, sain, fideo ac unrhyw gyfuniad o’r rhain at amrywiaeth o ddibenion. Felly, bydd hyn yn cynnwys amryfal weithgareddau ar draws sawl cyd-destun gwahanol. Dewis a dethol apiau a meddalwedd, sy’n addas i ofynion y dasg er mwyn cyflwyno’r gwaith i gynulleidfa ehangach o fewn y dosbarth, ysgol … Continued

(Ail) ddarganfod eich hapusrwydd!

Yn y seminar hynod ryngweithiol yma byddwch yn cael eich arwain drwy gwestiynau sydd wedi’u saernïo’n ofalus, a gweithgareddau mewn parau a grwpiau bach fydd yn eich helpu i ddarganfod: • Beth sydd yn eich gwneud yn hapus • Beth ydych chi’n falch ohono • Sut y gallwch roi ar waith fwy o’r hyn sydd … Continued

‘To Pride or not to Pride’

Yn y blynyddoedd diwethaf mae cynnal digwyddiad ‘pride’wedi dod yn achlysur newydd mewn ysgolion.Ydy’r rhain yn ychwanegiadau defnyddiol ar gyfer ysgolion neu gimic? Yn y sesiwn byddwn yn edrych ar resymau dros gael neu’n erbyn cynnal digwyddiad pride mewn ysgol, p’run ai y dylid cael clwb Pride, a ffyrdd gwahanol o ymgysylltu hefo ein cymuned … Continued

Siapiwch eich byd drwy ddarganfod eich llais

Mewn byd lle mae addysg yn brysur, swnllyd, mewn anghydfod a chreisis, mae’n fwy pwysig nag erioed i ddefnyddio ein llais yn hyderus a chlir ac yn y gobaith y byddwn yn cael ein clywed. Pan rydym yn defnyddio ein llais, mae gennym y modd i siapio’r byd o’n cwmpas, p’run ai’n y dosbarth, mewn … Continued

Byddwch wydn! Ffyrdd ymarferol o ddelio a datblygu disgyblion gwydn.

Mae datblygu gwytnwch bellach yn cael ei gydnabod yr un mor bwysig â dysgu academaidd a lles. Yn ôl ymchwil mae plant a phobl ifanc gwydn yn sicrhau presenoldeb uwch, ymddygiad positif, a deilliannau academaidd gwell. Mae’r sesiwn wedi’i chynllunio er mwyn gwella dealltwriaeth y cyfranogion yn ogystal ag edrych ar adnoddau ymarferol a strategaethau … Continued