Creu’r ‘Ni’: Pwysigrwydd Perthyn Mewn Ysgol

Mae’r rheidrwydd i berthyn yn rhan annatod o’r natur ddynol, ac yn cael ei adnabod fwy-fwy fel ffactor bwysig sy’n dylanwadu ar bresenoldeb mewn ysgol, ymddygiad a chyrhaeddiad. Yn y seminar bydd Jean yn edrych ar ymchwil ar berthyn a darparu strategaethau ymarferol i wella’r syniad o berthyn ar gyfer yr holl ddisgyblion- yn enwedig y rhai dan anfantais neu’n fregus. Bydd yn disgrifio:

  • Ffyrdd o adeiladu dosbarthiadau cydlynus a grŵpiau tiwtor
  • Sut i wella rhyngweithio rhwng cyfoedion a chefnogi’r naill a’r llall
  • Sut i sicrhau fod yr holl blant yn cael y teimlad eu bod yn cyfri’ ac yn cael eu gwerthfawrogi fel unigolion
  • Sut i adeiladu perthynas gref rhwng staff a disgyblion

Jean Gross

Awdur a Siaradwr Poblogaidd

Iaith: Saesneg | Cynulleidfa: Cynradd ac Uwchradd