Gweithio gyda
Edrychwch ar yr holl fusnesau a gwasanaethau gwych rydyn ni’n gweithio gyda nhw.
Mae siarad yn ddewisol yn hunaniaeth gyfathrebu sydd wedi esblygu i ddisgrifio profiadau mewnol pobl sydd yn gallu siarad, ond yn profi cyfnodau pan nad ydynt yn dewis siarad. Gall hyn fod am ystod eang o resymau gan gynnwys gofid, llawenydd dwys, blinder a gorthrymder. Yn y gweithdy hwn byddwn yn edrych ar siarad dewisol ac unrhyw wahaniaethau sy’n gorgyffwrdd â mudandod dewisol (‘selective mutism’) Bydd y gweithdy hwn hefyd yn trafod ffyrdd ymarferol o gefnogi’r plant yn eich dosbarth/ysgol i archwilio eu hunaniaeth wrth gyfathrebu ac i gyfathrebu mewn ffordd sy’n gweithio iddyn nhw. Mae hyn yn cynnwys deall capasiti cyfathrebu a defnyddio technoleg/apiau cyfathrebu.
Iaith – English | Cynulleidfa – ADY & Pawb
Kim Mears
Therapydd iaith a lleferydd .BSc (hons), MEd (inclusive practice)
Edrychwch ar yr holl fusnesau a gwasanaethau gwych rydyn ni’n gweithio gyda nhw.