O ymarfer cynhwysol i ddiwylliant cynhwysol – dull ymarferol o gefnogi pob dysgwr

Mae diogelwch a chynhwysiant gwirioneddol yn yr ysgol yn seiliedig ar ymddiriedaeth, tegwch, a gweithdrefnau cyson sy’n grymuso plant, pobl ifanc a staff fel ei gilydd. Bydd creu perthnasoedd ystyrlon yn ganolbwynt i greu amgylcheddau mwy diogel a chynhwysol, gan bwysleisio’r egwyddor bod pobl yn dilyn pobl cyn dilyn rheolau. Mae diffinio diwylliant cynhwysol yn fuddiol ar gyfer pob dysgwr, gan sicrhau bod myfyrwyr ADY yn ffynnu ochr yn ochr â’u cyfoedion. Trwy ganolbwyntio ar egwyddorion effeithiol syml yn ymwneud ag ymddygiad, gall pob person ifanc deimlo eu bod yn werthfawr, yn cael eu parchu ac yn cael eu cefnogi.

Iaith – Saesneg | Cynulleidfa – Pawb

Huw Lloyd

Arbenigwr Ymddygiad – Crisis Prevention Institute