“GarageBand” ar gyfer llafaredd: Llais creadigol, sgwrs a llythrennedd trwy dechnoleg cerdd.

Sesiwn ymarferol yn archwilio sut y gall “GarageBand” ar gyfer iPad roi hwb i lafaredd, llythrennedd a chreadigrwydd yn yr ystafell ddosbarth. Stiwdio recordio barod ac am ddim i ddechreuwyr gan gwmni Apple ydy Garage Band, ond dydy llawer o bobl yn gwybod ble i ddechrau! Bydd y mynychwyr yn llunio arddangosiadau rhyngweithiol byw – creu  cerddoriaeth syml, recordio’r  llais mewn ffordd hwyliog, a chreu podlediadau byr mewn munudau. Mae’r technegau chwareus, deniadol a chynhwysol hyn yn ysbrydoli hyd yn oed y disgyblion amharod hynny i greu cyswllt  â’u lleisiau, gan arwain at bosibiliadau cyfoethog ar gyfer ysgrifennu. Bydd y rhain yn strategaethau ymarferol y gellid eu haddasu gan unrhyw athro i’w hymgorffori mewn darpariaeth draws-gwricwlaidd gyda dysgwyr o bob gallu, gan gynnwys ADY.

Iaith – Saesneg | Cynulleidfa – Pawb

Alex Rees

Ymgynghorydd Dysgu Creadigol