Mae magic yn hoelio sylw plant

Cyfle i chi gael eich rhyfeddu efo triciau hud a lledrith a phrofi eu gwerth wrth hybu hunan hyder a datblygu stratagethau i ymdopi ag emosiynau anodd.

Fel ymarferydd celf mewn iechyd, mae lles ac iechyd meddwl plant yn hollbwysig i mi. Trwy gyfuno hyn â dros 40 mlynedd o berfformio fel consuriwr, rwy’n cyflwyno sesiynau hud sydd yn hybu hunanhyder plant, yn ddeinamig, difyr, sensitif ac yn llawn hwyl mewn amgylchedd diogel. Mae’r plant yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac yn sylweddoli y gallant wneud gwahaniaeth, bod eu llais nhw yn bwysig.

Er nad yw wastad yn bosib gwneud popeth yn iawn, mi fedrwn ni wneud pethau yn well.

Hud sy’n rhoi gwên yn eich calon.

Sesiwn dwyieithog sy’n addas i bawb.

Karen Hughes

Actores a Cyhyfarwyddwr Kariad