Cefnogi eich myfyrwyr i lwyddo’n y gweithle a thu hwnt

Sesiwn ymarferol a diddorol i addysgwyr sy’n chwilio i ddarparu sgiliau llafaredd allweddol sydd eu hangen i ffynnu yn y dosbarth a thu hwnt i’r dosbarth.
Bydd y sesiwn wedi’i chysylltu â’r pedwar pwrpas yn y cwricwlwm Cymreig, ynghŷd â sut i gefmogi myfyrwyr drwy’r blynyddoedd pwysig yn y dosbarthiadau uwchradd.

Byddwn yn edrych ar beth mae cyflogwyr yn ei ystyried yn sgiliau gwerthfawr, a sut mae datblygu’r sgiliau a’r cryfderau hynny y mae cyflogwyr yn gofyn amdanynt wrth gyflogi, gan edrych ar bwysigrwydd sgiliau llafaredd yn y gweithle, a sut i roi’r cyfleoedd gorau i’ch myfyrwyr i lwyddo.

Suitable for Secondary & FE

Cait Lees

Arbenigwr mewn Lles ac Addysg
(Hyfforddwr, Areithiwr, Darlithiwr, Ymchwiliwr Doethuriaeth ac Awdur)