Llesiant mewn natur: ail-gysylltu disgyblion yng nghanol heriau ôl-bandemig

Gan ganolbwyntio ar rôl gynyddol iechyd meddwl mewn ysgolion, bydd y sesiwn yn tynnu sylw at yr ymchwil ddiweddaraf ar ddysgu sy’n seiliedig ar fyd natur a sut mae trefnu tripiau preswyl i’r awyr agored yn cael effaith gadarnhaol ar lesiant disgyblion. Bydd Nigel hefyd yn cynnig syniadau ymarferol i athrawon i wreiddio profiadau awyr agored yn ystyrlon, hyd yn oed o fewn amserlenni tynn, er mwyn cefnogi a rheoli emosiynau disgyblion,codi eu hyder a gwella eu cyswllt cymdeithasol.

Iaith – Saesneg | Cynulleidfa – Pawb

Nigel Miller

Prif Weithredwr (CEO) – Active Learning Centre