Pam mae modelau rôl Cymreig yn bwysig

Sawl un ohonom all enwi person sy’n gysylltiedig â mudiad hawliau sifil Prydeinig? Mae’r rhan fwyaf o ysgolion yn dibynnu ar fodelau rôl o Loegr neu America, gan anwybyddu’r straeon pŵerus sydd ar ein stepen drws ein hunain. Mae’r seminar yn edrych ar pam mae modelau rôl Cymreig yn bwysig ar gyfer hunaniaeth, perthyn, ac ehangu dealltwriaeth disgyblion o amrywiaeth. Rydym yn edrych ar yr effaith mae gweld pobl o Gymru – gan gynnwys rhai ag anableddau, LGBTQ+, hil, crefydd a mwy – yn cael eu cynrychioli yn y cwricwlwm, a’r risgiau o ddibynnu ar naratif o fannau eraill. Er mwyn cefnogi athrawon sy’n aml yn cael trafferth dod o hyd i enghreifftiau Cymreig, byddwn yn cyflwyno ein pecyn adnoddau Modelau Rôl Cymreig newydd.

Iaith – Saesneg | Cynulleidfa – Cynradd, Uwchradd

Ian Timbrell

Sylfaenydd – ‘More Than Flags and Rainbows’