Tear top Tear bottom

Sioe Addysg Genedlaethol

Ar-lein

Y Sioe Addysg Genedlaethol
Yn fyw Ar-lein

Ymunwch â ni ynghŷd â’n holl siaradwyr anhygoel yn y Sioe Addysg Genedlaethol yn fyw ar-lein am 3 diwrnod ar y 6ed, 7fed, ac 8fed o Hydref 2021.

Digwyddiad bythgofiadwy sy’n rhoi cyfleoedd a chynnig ffyrdd newydd i wella a chodi safonau,cyfoethogi profiadau dysgu a chefnogi dysgwyr.

Amserlen seminarau Cymraeg

Cofrestru ar gyfer recordiau seminarau

Llawrlwytho llyfryn y Sioe

Pam mynychu?

Digwyddiad addysgol yn fyw ar-lein.

Mae’r Sioe Addysg Genedlaethol yn cyflwyno seminarau ysbrydoledig gan arweinwyr. Bydd cyfleoedd i elwa ar adnoddau a chynigion arbennig gan ein harddangoswyr. Mae’r sioe ar gyfer pawb sy’n gweithio yn y sector addysg a heb y drafferth o drafeilio a gwario amser i ffwrdd oddi wrth eich anwyliaid.

Trwy gyrchu’r sioe yn fyw ar-lein, byddwch yn:
– cael mynediad i dros 40+ o seminarau DPP;
– cael strategaethau ac adnoddau i godi safonau;
– dysgu ffyrdd o wella profiadau dysgu a chefnogi dysgwyr;
– cymryd rhan mewn cyfleoedd rhwydweithio  a sgwrsio gyda chyfoedion a’r siaradwyr;
– grymuso ac ysbrydoli eich hun a’ch staff;
– cael mynediad at recordiadau’r seminarau i’w gwylio ar amser cyfleus i chi.

Ein seminarau

Darllenwch yr adborth anhygoel ‘rydym wedi’i gael…..

 

“Roedd mynychu’r Sioe Addysg Genedlaethol yn rhoi cyfle i’n staff i addasu eu DPP yn unol â’u hanghenion personol. Roedd y dewis eang o seminarau yn rhoi iddynt ysbrydoliaeth, mwynhád, syniadau arloesol am addysgu, a hwb i’w hunan les. Roedd hefyd yn gyfle unigryw i gyflwyno ein holl staff i’r technegau a’r adnoddau diweddaraf a gyflwynwyd gan yr amrywiol arddangoswyr i ysbrydoli  eu brwydfrydedd ar gyfer datblygu arferion addysgu newydd.  Fe ddaethant â llu o syniadau ysbrydoledig yn ôl i’r ysgol oedd yn eu galluogi i ddatblygu eu haddysgeg a dechrau defnyddio’r syniadau arloesol mewn cwricwlwm newydd.”

T Griffith, Pennaeth Cynorthwyol, Ysgol Uwchradd Cyfarthfa

Ffordd ddelfrydol o wneud y gorau o’ch hyfforddiant DPP

Mae ganddom nifer o seminarau a stondinau yn cyflwyno cynhyrchion addysgol i gyd dros dri diwrnod yn seiliedig ar:

• Iechyd a Lles Meddwl
• Arferion ymddygiad gwybyddol
• Gweithgareddau dysgu awyr agored
• Ymarferion sy’n gyfeillgar i’r cof
• Gwydnwch emosiynol
• Gweithio gyda rhieni
• Cydnabod gweledigaeth a gwerth
• Gwneud y broses dysgu yn anorchfygol
• Angori sylw dysgwyr a llawer mwy

Seminarau
Ein arddangoswyr
Check out all the great products and services for the creative industry.
Icon Icon Icon Icon Icon Icon Icon Icon Icon Icon Icon Icon Icon Icon Icon Icon Icon Icon Icon Icon Icon Icon Icon Icon Icon Icon Icon Icon Icon Icon Icon
Ein arddangoswyr
Eisiau cadw mewn cysylltiad?
Arwyddo am gylchlythyr