Y Sioe Addysg Genedlaethol
Yn fyw Ar-lein
Ymunwch â ni ynghŷd â’n holl siaradwyr anhygoel yn y Sioe Addysg Genedlaethol yn fyw ar-lein am 3 diwrnod ar y 6ed, 7fed, ac 8fed o Hydref 2021.
Digwyddiad bythgofiadwy sy’n rhoi cyfleoedd a chynnig ffyrdd newydd i wella a chodi safonau,cyfoethogi profiadau dysgu a chefnogi dysgwyr.
Pam mynychu?
Digwyddiad addysgol yn fyw ar-lein.
Mae’r Sioe Addysg Genedlaethol yn cyflwyno seminarau ysbrydoledig gan arweinwyr. Bydd cyfleoedd i elwa ar adnoddau a chynigion arbennig gan ein harddangoswyr. Mae’r sioe ar gyfer pawb sy’n gweithio yn y sector addysg a heb y drafferth o drafeilio a gwario amser i ffwrdd oddi wrth eich anwyliaid.
Trwy gyrchu’r sioe yn fyw ar-lein, byddwch yn:
– cael mynediad i dros 40+ o seminarau DPP;
– cael strategaethau ac adnoddau i godi safonau;
– dysgu ffyrdd o wella profiadau dysgu a chefnogi dysgwyr;
– cymryd rhan mewn cyfleoedd rhwydweithio a sgwrsio gyda chyfoedion a’r siaradwyr;
– grymuso ac ysbrydoli eich hun a’ch staff;
– cael mynediad at recordiadau’r seminarau i’w gwylio ar amser cyfleus i chi.
Darllenwch yr adborth anhygoel ‘rydym wedi’i gael…..
“Roedd mynychu’r Sioe Addysg Genedlaethol yn rhoi cyfle i’n staff i addasu eu DPP yn unol â’u hanghenion personol. Roedd y dewis eang o seminarau yn rhoi iddynt ysbrydoliaeth, mwynhád, syniadau arloesol am addysgu, a hwb i’w hunan les. Roedd hefyd yn gyfle unigryw i gyflwyno ein holl staff i’r technegau a’r adnoddau diweddaraf a gyflwynwyd gan yr amrywiol arddangoswyr i ysbrydoli eu brwydfrydedd ar gyfer datblygu arferion addysgu newydd. Fe ddaethant â llu o syniadau ysbrydoledig yn ôl i’r ysgol oedd yn eu galluogi i ddatblygu eu haddysgeg a dechrau defnyddio’r syniadau arloesol mewn cwricwlwm newydd.”
T Griffith, Pennaeth Cynorthwyol, Ysgol Uwchradd Cyfarthfa
Ffordd ddelfrydol o wneud y gorau o’ch hyfforddiant DPP
Mae ganddom nifer o seminarau a stondinau yn cyflwyno cynhyrchion addysgol i gyd dros dri diwrnod yn seiliedig ar:
• Iechyd a Lles Meddwl
• Arferion ymddygiad gwybyddol
• Gweithgareddau dysgu awyr agored
• Ymarferion sy’n gyfeillgar i’r cof
• Gwydnwch emosiynol
• Gweithio gyda rhieni
• Cydnabod gweledigaeth a gwerth
• Gwneud y broses dysgu yn anorchfygol
• Angori sylw dysgwyr a llawer mwy