Defnyddio amser cylch sy’n fywiog ac o ansawdd da i hyrwyddo Lles y Plentyn mewn awyrgylch ddosbarth bositif a thawel.

Mae ysgolion Cymru’n adrodd fod sgiliau darllen ac ysgrifennu plant wedi llithro ar ôl y Cofid .
Mae sgiliau sgwrsio’n hyderus, llythrennedd, cymryd twrn, bod yn amyneddgar a darllen ciws di-iaith wedi cael eu heffeithio gan y cyfyngiadau cofid.

Mae annog plant i sgwrsio drwy Amser Cylch sy’n fywiog a rhagweithiol yn hyrwyddo sgiliau cyfathrebu a mynegiant, gan anelu at wella lles gan ddefnyddio fforwm saff a strategaethau eraill.

Bydd Jenny yn disgrifio y camau pwysig a chanllawiau ar gyfer Amser Cylch,a thynnu sylw at y Pum Sgil Cyfathrebu sy’n hanfodol i hyrwyddo Amser Cylch.

Bydd Jenny hefyd yn trafod y defnydd o bypedau, technegau llonyddu, siarad heb dorri ar draws, gemau a gweithgareddau i helpu gyda gweithio fel tîm, a datblygu perthynas barchus.

Seminar drwy gyfrwng Saesneg. 

Addas i bawb.

Jenny Mosley