Pwysigrwydd chwarae a chael hwyl ar gyfer lles plant

Mae cael amser chwarae hwyliog a phositif yn gwneud byd o wahaniaeth i blant. Ni allwn beidio â sylweddoli pwysigrwydd y lles sy’n deillio o chwarae a chwerthin.

Mi fydd Jenny yn trafod sut mae cyd-weithredu, cynhwysiad, cymuned a pherthyn yn cael ei feithrin drwy chwarae.

Gall plant ddysgu sut i chwarae gemau traddodiadol a rhai newydd i gefnogi gwell dealltwriaeth o ddysgu, cyfeillgarwch a gwaith tîm.

Bydd Jenny’n trafod sut y gall pawb feithrin eu diddordebau unigol mewn buarth chwarae prysur ac mewn parthau arbennig. Bydd hi hefyd yn pwysleisio sut y gall chwaraegarwch ddod â mwy o hwyl i’r dosbarth.

Jenny Mosley

Cyfarwyddwr a Sylfaenydd Quality Circle Time ac Awdures

Iaith: Saesneg | Cynulleidfa: Pawb