AuDHD: Deall sut mae ADHD ac Awtistiaeth yn Croesdorri

Yn y gweithdy bydd Dr Tom Nicholson yn edrych ar sut y mae ein dealltwriaeth o ADHD ac awtistiaeth wedi datblygu, gan herio’r syniadau traddodiadol ar niwrowahaniaeth a’r ffordd mae’r cyfryngau cymdeithasol yn aml yn eu portreadu fel goruwchbwerau “superpower.”

Oes yna ffordd wahanol o edrych ar ffyrdd i ddeall niwrowahaniaeth? Bydd y sgwrs yn edrych ar nodweddion craidd ADHD ac awtistiaeth , tra’n rhoi goleuni ar brofiadau rhai sy’n byw hefo’r ddau gyflwr. Pam nad ydy pobl yn sylweddoli eu bod yn awtistig tan iddyn nhw gael eu diagnosio hefo ADHD a dechrau ar feddyginiaeth adfywiol (’stimulant medication’)? Sut y gall rhywun deimlo’n  hollol fywiog un munud, ac eto’n teimlo’n flinedig wedyn? Ymunwch â ni i edrych i mewn i’r cwestiynau yma a mwy.

Iaith: Saesneg | Cynulleidfa: ADY & Pawb

Dr Tom Nicholson – Hyfforddwr a Phrif Siaradwr mewn Niwrowahaniaeth a Niwro-gyd-gynhwysiant ac Athro Cynorthwyol mewn Nyrsio Iechyd Meddwl