Gweithio gyda
Edrychwch ar yr holl fusnesau a gwasanaethau gwych rydyn ni’n gweithio gyda nhw.
Ydych chi’n chwilio am ysbrydoliaeth i redeg sesiynau cerdd sy’n sbarduno plant ac yn magu hyder?
Cerddor ac addysgwr yw Geth Tomos sy’n arbenigo mewn dysgu cerdd ym maes Addysg Arbennig. Mae ganddo brofiad eang o weithio yn y byd addysg yn ogystal a phrofiad o weithio’n agos gyda BBC NOW, No Fit State Circus a llawer mwy. Mae ei weithdai’n llawn syniadau ymarferol ar gyfer addysgu gwahanol agweddau ar gerdd a’r celfyddydau mynegiannol ar draws yr holl grwpiau oedran cynradd ac uwchradd yn ogystal ag Ysgolion AAA. Bydd yn dangos gweithgareddau unigryw a difyr, yn defnyddio pethau syml, bob dydd, i greu offerynnau ac ysbrydoli a bydd yn dangos sut i gyflwyno sesiynau cerdd sy’n ysgogi ac yn cynnau fflam creadigrwydd yn y disgyblion a’r staff. Dyma sesiwn ddelfrydol i addysgwyr sy’n chwilio am syniadau newydd ac sy’n creu cyfranwyr mentrus, creadigol yn yr ysgol. Ymunwch â Geth Tomos, Cyfarwyddwr Creadigol Cerddamdani, am sesiwn hwyliog a difyr.
Geth Tomos
Edrychwch ar yr holl fusnesau a gwasanaethau gwych rydyn ni’n gweithio gyda nhw.