Gweithio gyda
Edrychwch ar yr holl fusnesau a gwasanaethau gwych rydyn ni’n gweithio gyda nhw.
Bydd y sesiwn yn agor hefo penawdau o ymchwil diweddar ar yr amrywiaeth o destunau llenyddiaeth sydd yn cael eu dysgu yng Nghymru- yn Gymraeg, Saesneg a Ieithoedd Rhyngwladol. Mae’n edrych ar rai o’r rhwystrau i’r amrywiaeth testunau sydd mewn dosbarthiadau a’r rhai s’yn cael eu hargymell ar gyfer darllen er pleser i’r disgyblion.
Fodd bynnag, mae’r rhan fwyaf o’r amser gyda’n gilydd yn cael ei neilltuo i edrych ar broject ar-lein am ddim, PDF dwyieithog a fideos i helpu athrawon ( llyfrgellwyr a rhieni hefyd) i ddarganfod testunau amrywiol.
Maent ar gael ar Hwb a’u rhannu gan BAME Cymru (Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol), ’Show Racism the Red Card’, a ‘subject associations’ led-led y DU.
Bydd pob sleid ac adnoddau yn ddwyieithog yn y Gymraeg/Saesneg.
Dr Sarah Olive
Prifysgol Bangor a Phrifysgol Aston – Uwch Ddarlithydd
Edrychwch ar yr holl fusnesau a gwasanaethau gwych rydyn ni’n gweithio gyda nhw.