Gweithio gyda
Edrychwch ar yr holl fusnesau a gwasanaethau gwych rydyn ni’n gweithio gyda nhw.
Bydd y gweithdy ymarferol yma’n deffro’r synhwyrau a rhoi cyfleoedd i gysylltu hefo natur. Mae bod yn yr awyr agored yn darparu profiadau go iawn a helpu i hybu’r meddwl a sgiliau datrys problemau.Bydd y sesiwn yn annog y cyfranwyr i ddarganfod ffyrdd i wella sgiliau motor, gwella lefelau ymarfer corff ynghŷd â chyfle i archwilio creadigrwydd a chael eich ysbrydoli drwy gemau a gweithgareddau syml. Mae’r cyfan yn annog bod ynghlwm yn y dysgu a gwella cyflawniad academaidd. Bydd y cyfranwyr yn gwella eu sgiliau fel hwyluswyr a deall rol oedolion yn yr amgylchedd tu allan.Mae’r byd tu allan yn le i ni feithrin ein hunain ac eraill o’n cwmpas. Mae’n helpu i leihau pwysau gwaith a blinder sydd wedyn yn fodd i wella iechyd a lles. Bydd y sesiwn yn cael ei chynnal ym Mharc Bute, ac yn fodd i archwilio calon werdd y ddinas.Dewch â dillad ac esgidiau addas ar gyfer y tu allan.
Bydd y seminar hon drwy gyfrwng Saesneg.
Cyngor Caerdydd
Ceidwaidwyr Cymunedol a’r Tîm Addysg
Edrychwch ar yr holl fusnesau a gwasanaethau gwych rydyn ni’n gweithio gyda nhw.