Caerdydd – Seminarau 2024
Ein Seminarau
Trefnu yn ôl amser
Trefnu yn ôl amser
Clir
09:00 – 09:50
Argymhellion ardderchog i greu Cyfnod Blynyddoedd Cynnar arbennig yn eich ysgol
Datblygu sgiliau newydd mewn dysgu ysgrifennu a mathemateg • Dysgu sut i ffitio bob dim i mewn i amserlen brysur • Defnyddio’r gofod tu allan i’r dosbarth i’w llawn botensial • Datblygu syniadau asesu • Cefnogi arolygiadau ESTYN a ‘CIW’
09:00 – 09:50
Ydy’ch ysgol chi’n gneud yn ‘Iawn’ neu ydych chi’n teimlo’n rhwystredig?
Bydd y sgwrs hon yn rhannu pam fod nifer o ysgolion yn teimlo fel hyn a rhoi erfynnau pŵerus i’ch tywys at atebion. Darllen mwy...
09:00 – 09:50
Gwella sgiliau plant trwy Taskmaster. Mae’ch amser yn dechrau nawr
Yn y seminar byddwn yn amlygu ar sut y gallwn wneud hyn mewn ffordd sy’n argymell a hyrwyddo sgiliau. Bydd y seminar yn hwyliog, rhyngweithiol ac addysgol, fydd yn dangos i athrawon sut y gall ‘Taskmaster’ fod yn ddeniadol a chynhwysol ar gyfer addysg i bob oed. Darllen mwy...
Speaker image
Dr Ali Struthers - & James Blake-Lobb
09:00 – 09:50
Seminar ADY
Awtistiaeth: Patrwm Ymddygiad neu ‘Neurotype’?
Bydd y seminar yn edrych ar y gwahaniaeth rhwng deall patrymau awtistiaeth fel patrymau ymddygiad a deall awtistiaeth fel ‘neurotype’. Gan ddefnyddio esiamplau go iawn byddwn yn edrych ar y syniad o ‘tŷ ar y graig/tŷ ar y tywod’ mewn perthynas â‘r ddau fath o ddealltwriaeth am awtistiaeth, y canlyniad i les y myfyrwyr, eraill o’u cwmpas, a chi fel addysgwyr! Darllen mwy...
09:00 – 09:50
Yr athro fel adroddwr storïau: Cwricwlwm Cymru a Dychymyg Proffesiynol [‘Professional Imagination’]
Yn y sesiwn ysgafn hon bydd Hywel yn edrych ar • Defnyddio naratif a chyd-destun wrth drefnu’r cwricwlwm • Cwricwlwm ‘Should/Could/Must’ • Cynefin a stori • Trosglwyddo gwybodaeth a dirnad pedagogiaeth • Storïau sy’n ysbrydoli Bydd y sesiwn yn un optimistaidd, defnyddiol ac a fydd yn cynnig syniadau a ellir eu rhoi yn syth ar waith. Darllen mwy...
09:00 – 09:50
Dyslecsia a Dyspracsia- Meddwl tu allan i’r bocs
Yn ystod y sesiwn byddwn yn datblygu eich dealltwriaeth o ddyslecsia a dyspracsia ymhellach, gan edrych ar strategaethau syml i helpu myfyrwyr fwynhau eu gwersi a llwyddo’n y dosbarth.
09:00 – 09:50
Strategaethau effeithiol ar gyfer plant a phobl ifanc gydag anawsterau niwramrywiaethol
Mae’r sesiwn sydd wedi’i seilio ar dystiolaeth yn cyfeirio at gyflyrau niroamrywiaethol, yn cynnwys Awtistiaeth, ADHD, Dyslecsia,Dyspracsia a syndrom Tourettes. Darllen mwy...
09:00 – 09:50
A Step by Step Guide to Adapting Teaching’
Bydd y gweithdy hwn yn archwilio y cysyniadau o Wahaniaethu, Addysgu  Addasol a defnyddio Sgaffaldiau fel ffyrdd gwych i arfogi addysgwyr hefo dealltwriaeth well o’r strategaethau cyfarwyddol hyn.  Bydd pob dull yn cefnogi addysgwyr, ond gyda ffyrdd arbenigol o’u cyflwyno.
09:00 – 09:50
‘Reducing Restrictive Practices in Schools – Prevention, De-escalation, and Consistent Responses.’
Mae diwylliant ysgol sy’n rhoi cefnogaeth i reoli y myfyrwyr mwyaf anodd yn wych yn allwedd i amgylchedd ddysgu hamddenol. Bydd Olllie yn eich helpu i ddatrys yr anrhefn o gosbi a gweld bai , tra’n rhannu egwyddorion dymunol ac ymarferol gan yr ymarferwyr gorau, sy’n gallu datrys sefyllfaoedd a lleihau’r angen am ymyrraeth gorfforol. Darllen mwy...
09:00 – 09:50
Mae’n cymryd Pentref
Ar ol blynyddoedd o lymder ariannol a phandemig rhyngwladol, mae ysgolion bellach yn ffeindio'u hunain yn fwyfwy allweddol i gefnogi teuluoedd. Byddwn yn trafod strategaethau i feithrin perthnasau cryfach gyda rhieni, i gyd-weithio gyda hwy i ddatblygu gwytnwch a sgiliau emosiynol, cyfathrebu ac academaidd eu plant.
Speaker image Speaker image
Sara Williams, Beca James
09:00 – 09:50
**WEDI GWERTHU ALLAN** Iechyd a Lles yn yr Awyr Agored – Ffordd effeithiol o ddenu disgyblion
Bydd y gweithdy ymarferol yma’n deffro’r synhwyrau a rhoi cyfleoedd i gysylltu hefo natur. Mae bod yn yr awyr agored yn darparu profiadau go iawn a helpu i hybu’r meddwl a sgiliau datrys problemau.Bydd y sesiwn yn annog y cyfranwyr i ddarganfod ffyrdd i wella sgiliau motor, gwella lefelau ymarfer corff ynghŷd â chyfle i archwilio creadigrwydd a chael eich ysbrydoli drwy gemau a gweithgareddau syml. Darllen mwy
09:00 – 09:50
Adaptive Teaching (with Winnie the Pooh)
The session, we inject a dose of whimsy by envisioning the beloved characters from Winnie the Pooh as our students. Brace yourself for an engaging and enthralling lesson about volcanoes, where we will delve into how adaptive teaching strategies can effectively support students of all learning styles. Oh, and calling all volunteers who can infuse the classroom with Tigger's spirited bouncing energy! Read more...
09:00 – 09:50
Bwriad, Gweithredu, Effaith: Sut i ddylunio a chyflwyno cwricwlwm ysgol uchelgeisiol
Sut i ddylunio cwricwlwm uchelgeisiol, eang a chytbwys. Sut i gynllunio a dilyniannu'r cwricwlwm ar gyfer dilyniant. Sut i sicrhau bod pob dysgwr - beth bynnag fo'i fannau cychwyn, cefndir ac anghenion ychwanegol - yn gallu cael mynediad i'r un cwricwlwm a ffynnu
10:30 - 11:20
‘Empower your Wellbeing ‘The 7 Pillars of Self-Care for Educators’
Self-care must be the number one priority for all. Many educators are burning the candle at both ends, striving to provide the best for their students while struggling with feelings of isolation. In short, they are neglecting their Mental Wealth. This seminar will help you build the foundational pillars of well-being with a support network fit for the road ahead.
10:30 - 11:20
Brick-by-Brick: meithrin lles cymdeithasol ac emosiynol trwy chwarae LEGO® cydweithredol
Mae ‘Play Included’® yn bartneriaid gyda Sefydliad LEGO ac mae’n falch iawn o rannu arbenigedd ei dîm ar sut y gellir defnyddio chwarae cydweithredol LEGO® i gefnogi datblygiad cymdeithasol, cyfathrebu ac emosiynol plant. Darllen mwy...
Speaker image
Dr Gina Gómez de la Cuesta
10:30 - 11:20
Addysg wedi’i bersonoli ar gyfer pob disgybl
Agorwch botensial pob dysgwr drwy roi profiadau positif ac ysbrydoledig iddyn nhw. Bydd y sesiwn yn ffocysu ar bersonoli addysgu drwy adnoddau a dulliau sydd yn weithredol ar y dyfeisiadau sydd yn eich ysgol.P’run ai ydych yn defnyddio platfformau Apple,Google neu Microsoft, byddwn yn archwilio adnoddau am ddim, gan sicrhau nad ydy eich cyllideb yn cyfyngu ar eich addysgu arloesol. Darllen mwy...
10:30 - 11:20
Seminar ADY
**WEDI GWERTHU ALLAN** Cyfathrebu synhwyraidd ar gyfer sefyllfaoedd dwys.
Yn y seminar yma byddwch yn darganfod ‘sensory flight paths’ ac yn ystyried technegau cyfathrebu y gellid eu defnyddio i gefnogi unrhyw berson gofidus i deimlo’n saff a thawel. Darllen mwy...
10:30 - 11:20
Y ‘3E’ o fod yn gynhwysol: ‘The 3E’s of Inclusion: Darparu’r ystafell ddosbarth ar gyfer myfyrwyr y dosbarth gweithiol.
Mae myfyrwyr y dosbarth gweithol yn dechrau bywyd dan anfantais ac mae’r sustem addysg yn methu cau’r agendor. Bydd myfyrwyr y dosbarth gweithiol yn cael y canlyniadau gwaethaf, yn llai tebygol o fynd i Brifysgol, yn llai tebygol o weithio mewn swyddi sy’n talu’n dda, ac yn dioddef o iechyd a lles gwael. Dydy hyn ddim oherwydd gallu nac ymdrech, ond hap a damwain. Darllen mwy...
10:30 - 11:20
Llwyddiant i adalw ffeithiau Rhif!
Bydd y seminar yn edrych ar adalw a diogelu ffeithiau rhif. Dyma’r sylfaen ar gyfer darpariaeth fathemategol unrhyw ysgol Gynradd ,ond sydd yn faes lle mae ysgolion yn profi llai o lwyddiant. Darllen mwy...
10:30 - 11:20
Cau’r bwlch anfantais: Rydym angen siarad am Jason
Bydd y sesiwn yn ffocysu ar blant a phobl ifanc sy’n tyfu i fyny mewn tlodi. Bydd Jean yn edrych ar fythau a’r pethau anghywir yr ydym yn eu gwneud yn ein hymdrechion i gau’r bwlch mewn cyflawniad rhwng y plant dan anfantais a’u cyfoedion. Darllen mwy...
10:30 - 11:20
Ydych chi’n delio gyda sgyrsiau a phobl anodd?
Mae’r seminar wedi’i chynllunio ar gyfer y rhai sydd eisiau datblygu hyder a sgiliau ar sut i ddelio â phobl anodd yn y gweithle. Mae cael sgyrsiau anodd neu ddelio â phobl anodd yn gallu creu pwysau gwaith a gorbryder i staff mewn ysgolion a cholegau. Mae’r seminar wedi’i chynllunio i’ch paratoi waeth beth fo’r amgylchiadau ar gyfer eich arfogi i ddelio hefo sefyllfaoedd anodd.
10:30 - 11:20
Defnyddio Drama ar gyfer Dysgu Gwych
Yn y sesiwn ddechreuol gyfeillgar hon bydd Hywel yn edrych ar • Sut y gall drama helpu hefo ymddygiad • Defnyddio Drama i gyfoethogi dysgu a deall • Sut mae Drama yn bedagogiaeth allweddol i gynnal y Pedwar Pwrpas [ ‘Four Purposes’] • Sut y gellir defnyddio Drama i gysylltu hefo’r gymuned a’r byd • Pam NAD ydy drama bob amser am actio Bydd y sesiwn yn cynnig syniadau allweddol i’w defnyddio’n syth yn eich dosbarthiadau.
10:30 - 11:20
**Wedi GWERTHU ALLAN** ‘Compass for life’- dod â’r theorïau gorau ynghyd â’u gweithredu
Yn edrych ar bedair prif agwedd o’r ‘CFL’ o berspectif personol a phroffesiynol. ‘Super North Star ‘(SNS) - eich gweledigaeth, a ble rydych chi’n mynd ar eich siwrnai. Ethos- eich gwerthoedd a sut mae’r rheini’n effeithio ar eich penderfyniadau. Darllen mwy...
Speaker image
Floyd Woodrow MBE DCM LL.B
10:30 - 11:20
Gweithio’n effeithiol hefo’ch cymhorthydd
Yn y sesiwn bydd Sara Alston yn edrych ar • Rhai sialensau o weithio’n effeithiol hefo’ch cymorthyddion a sut i’w goresgyn. • Creu tîm o gwmpas y plant sydd ag anghenion dysgu ychwanegol. • Pwysigrwydd cyfathrebu, yn enwedig ffyrdd o rannu cynlluniau, adborth a gwybodaeth am y plant. • Rôl y cymhorthydd o weithio o fewn y dosbarth drwy gydol y wers. • Gweithio tuag at fod yn annibynnol ac osgoi gwneud y plant yn ddibynnol ar brocio.
10:30 - 11:20
**Wedi Gwerthu Allan** Iechyd a Lles yn yr Awyr Agored – Ffordd effeithiol o ddenu disgyblion
Bydd y sesiwn yn annog y cyfranwyr i ddarganfod ffyrdd i wella sgiliau motor, gwella lefelau ymarfer corff ynghŷd â chyfle i archwilio creadigrwydd a chael eich ysbrydoli drwy gemau a gweithgareddau syml. Mae’r cyfan yn annog bod ynghlwm yn y dysgu a gwella cyflawniad academaidd. Darllen mwy...
10:30 - 11:20
**WEDI GWERTHU ALLAN** Symud drwy Stori a Ioga
Sesiwn symud hwyliog yng nghwmni Leisa Mererid wrth iddi eich tywys drwy ei llyfr diweddaraf 'Y Seren Ioga'. Dewch i ddilyn taith seren fach sydd ar goll. Daw wyneb yn wyneb a sawl rhwystr a sawl creadur 'anghyfarwydd' wrth iddi drio dod o hyd i'w ffordd adre.
12:00 – 12:50
**WEDI GWERTHU ALLAN** ‘Tuff Tray’ Tu Allan
Byddai'r sesiwn hon yn ymwneud â gosod 'Tuff Tray' y tu allan i ymestyn a chyfoethogi'r cwricwlwm a datblygu dysgu'r plant.
12:00 – 12:50
Beth mae’r ysgolion gorau’n wneud yn wahanol, a beth sydd yr un fath?
Pam fod rhai ysgolion yn gwneud yn well nag eraill? Oes ganddyn nhw ddemograffi haws? Mwy o arian? Gwell Cynlluniau gwaith? Yn y seminar yma byddwn yn egluro beth ydy ‘Ysgol wych’ a rhannu beth sydd, neu beth sydd ddim yn wahanol amdanynt fel y gallwch weithredu hyn yn eich ysgol er budd eich disgyblion.
12:00 – 12:50
Seminar ADY
Arwain disgyblion drwy’r ‘Learning Pit’
Y ‘Pwll Dysgu’ ydy un o’r modelau sy’n cael ei ddefnyddio fwyaf ar gyfer addysgu yn yr 20 mlynedd ddiwethaf.Crewyd y model gan James Nottingham sydd yn un o’n siaradwyr yn y gynhadledd. Pwrpas y ‘Learning Pit’ ydy i annog plant i gamu allan o’u man cyfforddus ‘comfort zone’. Pan maent yn gwneud hyn – ac yn mentro ymhellach na’r hyn y maent yn ei wybod yn barod,eu dealltwriaeth a’u gallu- maent yn debygol o wneud cynnydd. Darllen mwy...
12:00 – 12:50
**WEDI GWERTHU ALLAN** Hyfforddiant cyfundrefnol wrth galon lles a iechyd
Bydd datblygu’r diwylliant o hyfforddi yn cael yr effaith mwyaf positif ar bobl s’yn gweithio mewn ysgolion, ac yn y pen draw ar blant a’u teuluoedd. Mae hyfforddi arweinyddion a datblygu hyfforddi mewn ysgolion yn ffordd bwerus i arfogi pobl hefo’r awtonomiaeth angenrheidiol i siapio yr amgylchedd addysgol lle maent yn gweithio. Darllen mwy...
12:00 – 12:50
Ymddygiad gwych a Dysgu
Yr un peth ydy Dysgu ac Ymddygiad ac mewn gwirionedd fedrwch chi ddim cael yr un heb y llall. Weithiau mae’n teimlo fel nad oes gennym yr un o’r ddau beth.Mae delio hefo dosbarth yn anodd i bawb. Darllen mwy...
12:00 – 12:50
Arbed amser wrth ddefnyddio technoleg: arfau ar gyfer effeithiolrwydd yr athro
In a world of infinite online offerings and promises, it is hard to know which tools are genuinely useful, and which will simply clog our inboxes with SPAM. In this session, educators will be introduced to hand-selected, tried and tested, genuine time-savers. Teachers need to be allowed to reclaim their time while still maximizing educational impact. The session offers practical tools to streamline planning, assessment, and administration alongside an exploration of the latest trends in artificial intelligence.
12:00 – 12:50
Seminar ADY
**GWERTHU ALLAN** Cefnogi plant gydag Anghenion Dysgu Ychwanegol yn y prif lif
Yn ystod y sesiwn bydd Lorraine yn ystyried cymhlethdodau anghenion y plant yn ein prif lif heddiw. Bydd yn trafod sut y gallwn adnabod yr anghenion sylfaenol a diffinio rhai o’r strategaethau, ymyrraethau, a’r gefnogaeth y gallwn ei roi mewn lle ar gyfer diwallu’r anghenion.
12:00 – 12:50
**WEDI GWERTHU ALLAN** OMB! Pam na fedr y plentyn yna fyhafio? Agweddau positif tuag at Ymddygiad
This why won’t that child behave seminar looks at some of the reasons why a handful of children/young people cause the greatest disruption and concerns within schools/colleges. These pupils may have severe difficulties in managing their emotions and behaviour and as a consequence often show inappropriate responses and feelings to situations. This seminar is full of practical strategies and interventions to take back to the classroom.
12:00 – 12:50
‘How the Heck can the rekenrek help build early number sense?’
Dyma’ch cyfle i brofi ’20 bead rekenrek’ a gadael y sesiwn hefo pentwr o syniadau y gallwch eu defnyddio y diwrnod canlynol. Byddwch yn rhyfeddu at sut y gall yr offer di-drafferth yma ateb y synnwyr o ddyfnhau dealltwriaeth y plant o rifau, tra’n cymryd rhan mewn siarad yn naturiol a deallus am fathemateg. Darllen mwy...
12:00 – 12:50
Seminar ADY
**WEDI GWERTHU ALLAN** Goresgyn anawsterau i ddysgu
Sesiwn ar addysgu cyffredinol a dysgu strategaethau er mwyn i athrawon allu cefnogi myfyrwyr sydd ag Anghenion Addysgu Ychwanegol ac Anableddau. Bydd yr hyfforddiant yn arfogi addysgwyr hefo’r sgiliau angenrheidiol i greu naws gynhwysol yn y dosbarthiadau, ble y bydd pob myfyriwr yn ffynnu. Byddwch yn cael eich cyflwyno i gyfres o strategaethau sy’n diwallu’r anawsterau sy’n gysylltiol â darllen/dehongli/gwrando/deall/ysgrifennu a’r anawsterau o reoli amser y bydd y myfyrwyr yn ei wynebu.
12:00 – 12:50
**WEDI GWERTHU ALLAN** Iechyd a Lles yn yr Awyr Agored – Ffordd effeithiol o ddenu disgyblion
Bydd y sesiwn yn annog y cyfranwyr i ddarganfod ffyrdd i wella sgiliau motor, gwella lefelau ymarfer corff ynghŷd â chyfle i archwilio creadigrwydd a chael eich ysbrydoli drwy gemau a gweithgareddau syml. Darllen mwy...
12:00 – 12:50
Seminar ADY
Provision Mapping (Keeping track of what support students receive)
Join Abigail as she delves into the transformative potential of provision. Discover the essential principles of provision mapping and explore its significance, definition, visual representation, and progression from mapping to effective management.  Uncover the reasons why provision maps are recommended and unlock the tools to maximise their potential. Read more...
12:00 – 12:50
O gael dy Gynnwys i fod yn Perthyn: Iaith a’r Pedwar Diben
Unieithog, dwyieithog, amlieithog, lluosieithog ... yn y sesiwn hon bydd Mererid Hopwood yn archwilio arwyddocâd y termau hyn yng nghyd-destun Cwricwlwm i Gymru, ac yn awgrymu sut y gall edrych o’r newydd ar iaith gyfrannu at y siwrnai tuag at y Pedwar Diben.
13.30 - 14.20
Grym Chwarae: agwedd chwareus at addysgu a dysgu
Yn ystod y seminar, bydd Gina’n trafod yr ymchwil y tu ôl i ddysgu trwy chwarae, sut y gall ymarferwyr fod yn fwy chwareus yn eu lleoliadau eu hunain a sut y gall ymarferwyr ddefnyddio chwarae i gefnogi dysgu niwroamrywiol plant yn benodol.
Speaker image
Dr Gina Gómez de la Cuesta
13.30 - 14.20
Sut i wella eich iechyd emosiynol a’ch lles eich hun fel bo gennych fwy o egni ar gyfer chi’ch hun ac eraill.
Mae’n bwysig ein bod yn estyn allan a rhannu ein profiadau mewn fforymau oedolion sydd ddim yn feirniadol, i greu perthynas gryf, gofalgar, gynhwysol mewn amgylchedd gefnogol a lle y bydd pawb yn dysgu ynddi. Darllen mwy...
13.30 - 14.20
‘Head and Heart Leadership’
Bydd y sesiwn hon yn cyflwyno’ rhaglen ‘Head and Heart Leadership.’ Byddwn yn trafod pwysigrwydd arwain hefo’ch pen a’ch calon ac archwilio ffyrdd ar sut i gael y cyd-bwysedd yn iawn. Byddwch yn atgyfnerthu gwybodaeth am yr arweinyddiaeth ‘pen a chalon’ a mireinio y sgiliau angenrheidiol sydd eu hangen i arwain o’ch pen a’ch calon. Bydd yn sesiwn ymarferol a fydd yn rhoi amser i chi adlewyrchu ar eich arferion eich hun yn y cyd-destun sy’n addas i chi.
13.30 - 14.20
Cyflwyniad i Brofiadau Niweidiol mewn Plentyndod a Thrawma
Bydd y cwrs yn cefnogi ysgolion i ddod i adnabod a chefnogi y plant rheini sydd wedi cael profiadau niweidiol yn ystod eu plentyndod s’yn arwain at drawma neu broblemau ymlyniad. Darllen mwy...
13.30 - 14.20
Seminar ADY
Deall a chefnogi ADHD
Bydd y sesiwn hon mewn dwy ran: 1. Golwg ar beth ydy ac nac ydy ADHD yn cynnwys ymchwiliadau presennol, nodweddion allweddol, criteria diagnostig,’combordities’,’executive functioning impairments’, ‘emotional dysregulation’a’r gwahanol fathau o ADHD, yn cynnwys rhywedd. 2. Strategaethau ar gyfer y dosbarth, yn cynnwys cynhaliaeth ar gyfer ‘executive functioning’,gor-bryder,cof,cyfathrebu,ymrwymiadau a chefnogaeth ar gyfer hunan-reoli.
13.30 - 14.20
Sut i fod yn gymhorthydd ac yn arch-arwr!
Byddwn yn datblygu dealltwriaeth o rôl y cymhorthydd gan adnabod strategaethau allweddol a thechnegau i helpu dysgu’n y dosbarth. Byddwn yn edrych ar hunan-arfarnu, datblygu arferion cadarn ac arferion da.
13.30 - 14.20
Llywio tuag at newid positif yn eich amgylchedd ysgol
Bydd ‘CFL’ yn eich helpu nid yn unig i gael gweledigaeth glir ond i gyfathrebu’n effeithiol gyda’r holl randdeiliaid. Darllen mwy...
Speaker image
Floyd Woodrow MBE DCM LL.B
13.30 - 14.20
Seminar ADY
Pam yr ydym angen dull i’n harwain drwy’r angenhion ar gyfer ADY
Yn y seminar bydd Sara Alston yn dadlau fod y deiagnosis a roddir i’r plant yn rhy eang i fod o wir help iddyn nhw pan yn edrych ar eu anghenion addysgol.Yn lle hynny i ddarparu’r plant hefo’r gynhaliaeth fwyaf defnyddiol, mae’n angen edrych ar eu anghenion unigol. Bydd yn cynnig ffyrdd ymarferol o wneud hyn. Darllen mwy...
13.30 - 14.20
Creadigrwydd Digidol
Galluogi myfyrwyr i ennill set gynhwysfawr o sgiliau fydd yn eu galluogi i ddefnyddio technoleg yn hyderus a chreadigol. Datblygu cenhedlaeth newydd o ddinasyddion digidol hyderus, sy'n medru rhyngweithio a chydweithio ag eraill ar lein, i gynhyrchu amrywiaeth o gynnwys digidol amlgyfrwng gwreiddiol drwy gyfrwng y Gymraeg.
13:30 - 14:20 (do not use) - 13.30 - 14.20
**GWERTHU ALLAN** Iechyd a Lles yn yr Awyr Agored – Ffordd effeithiol o ddenu disgyblion
Bydd y sesiwn yn annog y cyfranwyr i ddarganfod ffyrdd i wella sgiliau motor, gwella lefelau ymarfer corff ynghŷd â chyfle i archwilio creadigrwydd a chael eich ysbrydoli drwy gemau a gweithgareddau syml. Darllen mwy...
13.30 - 14.20
Seminar ADY
**WEDI GWERTHU ALLAN** The spider’s web of trust
Human connection is key to building relationships in schools. relationships between children, parents and staff. This seminar will look at how to build these relationships in a human, empathetic manner so that they remain strong enough when we have to have those ‘tricky conversations’. It will feature the work of Brene Brown alongside the PACE approach and The Solihull Approach as ways to build these connections and form trust.
13.30 - 14.20
O gael dy Gynnwys i fod yn Perthyn: Iaith a’r Pedwar Diben
Unieithog, dwyieithog, amlieithog, lluosieithog ... yn y sesiwn hon bydd Mererid Hopwood yn archwilio arwyddocâd y termau hyn yng nghyd-destun Cwricwlwm i Gymru, ac yn awgrymu sut y gall edrych o’r newydd ar iaith gyfrannu at y siwrnai tuag at y Pedwar Diben.
15:00 – 15:50
Technolegau Cydweithredol mewn Ysgolion
Bydd y seminar hwn yn plymio i dechnolegau cydweithredolfel Bwrdd Gwyn a ‘Teams’, datod eu swyddogaethau a datgloi eu potensial i ddyrchafu gwaith tîm a chydweithio. Darllen mwy...
15:00 – 15:50
Delwedd y corff: Adeiladu Gwytnwch
Cyflwyniad i adnoddau ‘Dove Self-Esteem Project’ ar gyfer Ysgolion Cynradd ac Uwchradd. Bydd yr holl gynrychiolwyr yn gadael gyda cof bach yn llawn adnoddau am ddim. Darllenwch mwy...
15:00 – 15:50
Sut mae ‘Field Studies Council’ Cyngor Astudiaethau Maes yn gallu eich helpu i ffurfio pecyn cymorth addysgu tu allan.
Bydd y sesiwn ymarferol yn archwilio ffyrdd o sut y gallwn ddefnyddio’r gofod tu allan i hyrwyddo gwytnwch,hyder,a llwyddiant academaidd yn y Cynradd. Gyda syniadau ymarferol ac awgrymiadau i’ch helpu i wneud y mwyaf o ddysgu tu allan, byddwn yn edrych ar sut y gall ‘Field Studies Council’ gefnogi eich profiadau. Darllen mwy...
15:00 – 15:50
Ysgrifennu gan ddefnyddio technoleg [‘Tech-write’]: Galluogi addysgwyr i wella ysgrifennu myfyrwyr.
O greu sbardun i ysgrifennu creadigol i feithrin sgiliau i olygu a gwella gwaith ysgrifenedig, bydd y sesiwn yn fodd i roi arfau pwrpasol i athrawon i sbarduno pob agwedd i helpu myfyrwyr ar eu taith ysgrifennu. Byddwn yn edrych ar arfau technoleg ‘tech-tools’ ar gyfer darllen, ysgrifennu,golygu a gwella gwaith, a meistroli sillafu,atalnodi,a gramadeg o fewn cyd-destun gwaith ysgrifennu’r myfyrwyr eu hunain. Darllen mwy...
15:00 – 15:50
Pam fod amgylchedd trawmatig [‘Trauma-Informed Settings’] yn hanfodol
Bydd y seminar yn edrych ar sut i ddatblygu arferion ysgol a’r modd i gefnogi iechyd meddwl ar gyfer plant ac oedolion mewn amrywiol sefyllfaoedd a safleoedd cymdeithasol. Darllen mwy...
15:00 – 15:50
‘How the Heck can the rekenrek help build late number sense?’
Mae’n rhaid i chi ei brofi i’w wireddu. Dyma’ch cyfle i brofi ‘100 bead rekenrek’a gadael y sesiwn hefo syniadau syml y gallwch eu defnyddio y diwrnod canlynol. Byddwch yn rhyfeddu at sut y gall yr offer di-drafferth yma ateb y synnwyr o ddyfnhau dealltwriaeth y plant o rifau, tra’n cymryd rhan mewn siarad yn naturiol a deallus am fathemateg. Darllen mwy...
15:00 – 15:50
‘Hwyliaith’ / ‘Welsh made fun’
Yn ystod y sesiwn bywiog a chyffrous yma bydd Ffa-la-la yn anelu at ddarparu hyfforddiant i ymarferwyr sy’n eu galluogi i ddysgu a datblygu eu defnydd o’r Gymraeg. Mae dull Ffa-la-la wedi'i gynllunio o amgylch addysgu patrymau brawddegau allweddol a amlygwyd yn y ‘Continwwm Patrymau Iaith Gymraeg’. Mae'r sesiwn i wedi’u creu’n benodol i ddod â’r Gymraeg yn fyw!
15:00 – 15:50
**Wedi GWERTHU ALLAN** Iechyd a Lles yn yr Awyr Agored – Ffordd effeithiol o ddenu disgyblion
Bydd y sesiwn yn annog y cyfranwyr i ddarganfod ffyrdd i wella sgiliau motor, gwella lefelau ymarfer corff ynghŷd â chyfle i archwilio creadigrwydd a chael eich ysbrydoli drwy gemau a gweithgareddau syml. Darllen mwy...
15:00 – 15:50
Seminar ADY
Follow The Empathy Road
This seminar will look at Ginny’s lived experiences of building relationships with families when a child comes to our school ‘mid school career’ and parents have put barriers up because of what has happened to them in previous settings. She will look at ‘Logos, ethos and pathos’ as a way to navigate those first tricky conversations. She will look at ways to set up meetings so that everyone feels listened to in a nurturing environment.