Addysg wedi’i bersonoli ar gyfer pob disgybl

Agorwch botensial pob dysgwr drwy roi profiadau positif ac ysbrydoledig iddyn nhw.
Bydd y sesiwn yn ffocysu ar bersonoli addysgu drwy adnoddau a dulliau sydd yn weithredol ar y dyfeisiadau sydd yn eich ysgol.P’run ai ydych yn defnyddio platfformau Apple,Google neu Microsoft, byddwn yn archwilio adnoddau am ddim, gan sicrhau nad ydy eich cyllideb yn cyfyngu ar eich addysgu arloesol. Manteisiwch ar ‘Assistive and Inclusive Technology’ i drawsnewid siwrnai addysgol pob plentyn, gan ddarparu ar gyfer pob math o anghenion amrywiol.

Bydd addysgwyr yn dysgu i ddefnyddio sgiliau technolegol, gan feithrin dulliau personol ar gyfer eich dosbarth a fydd yn esgor ar lwyddiant ac ymroddiad y myfyrwyr. Darganfyddwch sut mae adnoddau am ddim yn gallu hyrwyddo’r profiad addysgol i’r holl ddysgwyr, waeth beth fo’r adnoddau.

Bydd y seminar hon drwy gyfrwng Saesneg.

Ryan Evans