Ysgrifennu gan ddefnyddio technoleg [‘Tech-write’]: Galluogi addysgwyr i wella ysgrifennu myfyrwyr.

Ymunwch â’r seminar yma i archwilio’r posibiliadau o ddefnyddio technoleg i wella sgiliau llythrennedd.

O greu sbardun i ysgrifennu creadigol i feithrin sgiliau i olygu a gwella gwaith ysgrifenedig, bydd y sesiwn yn fodd i roi arfau pwrpasol i athrawon i sbarduno pob agwedd i helpu myfyrwyr ar eu taith ysgrifennu. Byddwn yn edrych ar arfau technoleg ‘tech-tools’ ar gyfer darllen, ysgrifennu,golygu a gwella gwaith, a meistroli sillafu,atalnodi,a gramadeg o fewn cyd-destun gwaith ysgrifennu’r myfyrwyr eu hunain.

Bydd y seminar hon drwy gyfrwng Saesneg.

Amelia Archer