Arwain disgyblion drwy’r ‘Learning Pit’

Y ‘Pwll Dysgu’ ydy un o’r modelau sy’n cael ei ddefnyddio fwyaf ar gyfer addysgu yn yr 20 mlynedd ddiwethaf.Crewyd y model gan James Nottingham sydd yn un o’n siaradwyr yn y gynhadledd.
Pwrpas y ‘Learning Pit’ ydy i annog plant i gamu allan o’u man cyfforddus ‘comfort zone’.
Pan maent yn gwneud hyn – ac yn mentro ymhellach na’r hyn y maent yn ei wybod yn barod,eu dealltwriaeth a’u gallu- maent yn debygol o wneud cynnydd.
Fodd bynnag, yn anffodus mae llawer o blant yn ofni cymryd y cam yma rhag ofn iddynt ymddangos yn wirion o flaen eu cyfoedion. Felly mae’n bwysig i greu ethos lle mae sialens nid yn unig yn cael ei ganiatáu ond yn cael ei annog .Gall y ‘Learning Pit’ wneud cyfraniad positif tuag at hyn.

Bydd y seminar hon drwy gyfrwng Saesneg.

James Nottingham