**GWERTHU ALLAN** Iechyd a Lles yn yr Awyr Agored – Ffordd effeithiol o ddenu disgyblion

**Mae’r seminar hon wedi GWERTHU ALLAN**

Bydd y gweithdy ymarferol yma’n deffro’r synhwyrau a rhoi cyfleoedd i gysylltu hefo natur. Mae bod yn yr awyr agored yn darparu profiadau go iawn a helpu i hybu’r meddwl a sgiliau datrys problemau. Bydd y sesiwn yn annog y cyfranwyr i ddarganfod ffyrdd i wella sgiliau motor, gwella lefelau ymarfer corff ynghŷd â chyfle i archwilio creadigrwydd a chael eich ysbrydoli drwy gemau a gweithgareddau syml. Mae’r cyfan yn annog bod ynghlwm yn y dysgu a gwella cyflawniad academaidd.Bydd y cyfranwyr yn gwella eu sgiliau fel hwyluswyr a deall rol oedolion yn yr amgylchedd tu allan.Mae’r byd tu allan yn le i ni feithrin ein hunain ac eraill o’n cwmpas. Mae’n helpu i leihau pwysau gwaith a blinder sydd wedyn yn fodd i wella iechyd a lles. Mi fydd y sesiwn yn cael i chynnal o fewn Utilita Arena Caerdydd.

Cyngor Caerdydd