Gwella sgiliau plant trwy Taskmaster. Mae’ch amser yn dechrau nawr

Ffurfiwyd ‘Taskmaster Education’ gan gymryd elfennau o’r rhaglen deledu ‘Taskmaster’ ar Channel 4, a’u defnyddio i ysbrydoli ac addysgu plant a phobl ifanc.

Drwy amrywiaeth o ffyrdd, gan gynnwys clybiau, adnoddau, sioeau,a chynnwys ysgrifenedig
bydd ‘Taskmaster Education’ yn mireinio sgiliau, er enghraifft datrys problemau, meddwl ochrol, gwaith tîm,creadigrwydd a gwytnwch drwy ddysgu mewn dull wedi’i seilio ar dasgau addysgol atyniadol.

Yr hyn sy’n dda am ‘Taskmaster’ ydy y gall y fformat gael ei addasu ar gyfer amrediad di-ddiwedd o amcanion athrawon, p’run ai ar gyfer y cwricwlwm, neu wedi eu ffocysu ar ddatblygiad cymdeithasol ac emosiynol.

Yn y seminar byddwn yn amlygu ar sut y gallwn wneud hyn mewn ffordd sy’n argymell a hyrwyddo sgiliau.
Bydd y seminar yn hwyliog, rhyngweithiol ac addysgol, fydd yn dangos i athrawon sut y gall ‘Taskmaster’ fod yn ddeniadol a chynhwysol ar gyfer addysg i bob oed.

 

Bydd y seminar hon drwy gyfrwng Saesneg.

Dr Ali Struthers – & James Blake-Lobb