Syniadau ymarferol ar gyfer hyfforddi cyd-weithwyr rheolaeth ganol newydd

Mae llawer o athrawon yn sicrhau dyrchafiad i swyddi arweinyddiaeth reolaeth ganol oherwydd eu sgiliau yn y dosbarth yn hytrach na’u profiad a’u gwybodaeth o reolaeth a gweinyddiaeth.

Mae’r seminar yn ceisio amlinellu sut i sicrhau rhaglen arweinyddiaeth dda o fewn yr ysgol gan ddenfyddio cyhoeddiadau diweddar ar sut i arwain o’r canol, yn ogystal â rhannu ei brofiad fel pennaeth yn datblygu arweinyddion.

Bydd y cyflwynydd yn cyflwyno’r elfennau allweddol a ddylai fod mewn rhaglen o’r fath gan gynnwys:
• Deall arddulliau arweinyddiaeth
• Sicrhau cyfathrebu da
• Creu a chynnal timau
• Hunanarfarniad a gwella cynlluniau

Bydd y sesiwn yma drwy gyfrwng Saesneg.

Addas i bawb.

Peter Agnew

Ymgynghorydd Addysg a Chyn bennaeth Uwchradd