Cyfraniad y Mudiad Ieuenctid i addysg Pobl Ifanc
Mae’r Mudiad Ieuenctid tra’n cael ei werthfawrogi (yn enwedig gan y bobl ifanc) ond ddim bob amser yn cael ei ddeall. Yn y sesiwn byddwch yn dysgu sut drwy berthynas wirfoddol gyda Gweithiwr Ieuenctid y mae pobl ifanc yn dysgu,yn datblygu a symud ymlaen drwy gryfhau sgiliau a gwybodaeth mewn amrywiol sefyllfaoedd. Mae Gwaith Ieuenctid yn cymryd lle mewn sefydliadau ffurfiol (ysgolion,colegau) a sefydliadau anffurfiol (Clybiau Ieuenctid, Canolfannau Cymunedol,ysbytai ac ar y stryd), yn ogystal ag yn ddigidol hefo’r ffocws ar ddatblygiad personol a chymdeithasol. Mae Gweithwyr Ieuenctid hefyd wedi’u hyfforddi i ddeall sut i ymdopi hefo’r rhwystrau sy’n atal mynediad i wasanaethau megis addysg ffurfiol, ac mae llawer ohonynt yn arweinwyr effeithiol ar bob lefel.
Gavin Gibbs, Marco Gil-Cervantes
Darllen ac Ysgrifennu Am Oes
Ysgogi eich myfyrwyr trwy ymgysylltiad gwirioneddol yw'r llwybr at ddysgu llwyddiannus. Mae helpu myfyrwyr i weld sut y byddant yn gyfoethocach o'ch gwersi a pherthnasedd y gwersi hynny i'w bywydau yn gwbl hanfodol. Mae Hywel a Martin yn cynnig rhai syniadau ymarferol a meddwl dwfn am lwyddiant yn eich ystafell ddosbarth. Byddant yn ystyried sut i adrodd straeon llawn dychymyg a datblygu sgiliau darllen ac ysgrifennu sy'n ddefnyddiol i fyd yr 21ain Ganrif. Byddant hefyd yn gweithio ar ysgrifennu straeon ac yn ystyried y ffyrdd y gall darllen ac ysgrifennu ehangu eich byd, eich disgwyliadau, eich hyder a'ch sgiliau fel cyfathrebwr. Mae edrych ar ysgrifennu go iawn at ddibenion go iawn gyda chynulleidfaoedd dilys wrth wraidd datblygu dulliau cryf o ddarllen a sut rydym yn ysgrifennu.
Hywel Roberts, Martin Illingworth
Gwerthoedd fel Cwmpawd Sefydliadol
Mae bod yn ysgol sy’n seiliedig ar werthoedd yn golygu dilyn model o saith elfen ym mhob agwedd ar fywyd yr ysgol, o’r ffordd y caiff gwesteion eu cyfarch, i’r modd y caiff gwrthdaro ei gyfryngu rhwng disgyblion. Bydd y sesiwn hon hefyd yn edrych ar y modelu dilys gan oedolion, datblygu cwricwlwm mewnol, creu amgylchedd a chwricwlwm sy'n seiliedig ar werthoedd, datblygu arweinyddiaeth o ansawdd a datblygu geirfa foesegol. Yn ystod y seminar hwn byddwch yn gadael gyda dealltwriaeth o sut y gallwch roi hyd yn oed mwy o fywyd i werthoedd eich ysgol a'ch cymuned.
Pwysigrwydd chwarae a buarthau Chwarae i Blant
Mae adroddiadau’n dangos fod chwarae hefo strwythur mewn buarth a chymdeithasu’n anodd ar ȏl cofid.Mae llawer o ysgolion yn profi problemau mawr yn eu buarthau chwarae.Mae chwarae’n allweddol i les plant, gwytnwch a’u gallu i ddysgu,gyda chwarae yn gosod sylfeini ar gyfer llythrennedd,cyfathrebu a bod yn greadigol rydd. Bydd Jenny yn amlygu materion allweddol a chyffredin sydd yn cael eu gweld yn y buarthau chwarae cyfredol, yn esbonio ffyrdd o hybu chwarae iach, bywiog a chyfathrebu da rhwng y goruchwylwyr a’r plant, yn rhoi syniadau ar sut y gall y plant gymryd cyfrifoldeb dros eu hymddygiad eu hunain, a chefnogi prosesau datrys problemau i broblemau a gyfyd yn y buarth chwarae.
Sut i Ddadlau
Sut y gall plant/pobl ifanc ddysgu sut i ddadlau’n fedrus,gydag emosiwn ac hefo rhesymau perthnasol i’r ddadl? Mae dadlau yn sgil allweddol i fywyd ac yn ganolog i draethodau ac arholiadau. Bydd y gweithdy hwn yn hwyliog ac yn ymarferol, ac yn cyflwyno technegau gwych ar gyfer helpu eich disgyblion/myfyrwyr i fod yn fwy rhesymol wrth ddadlau!
13:30 – 14:20
Seminar ADY
Dysgu Mathemateg ar gyfer y byd heddiw
Mae cwricwlwm a dulliau addysgu yn newid ond ai'r ffordd yr ydym yn addysgu mathemateg heddiw yw'r ffordd orau i'r rhai ag ADY/AAA? Mae'r seminar hon yn edrych ar bynciau poblogaidd fel Arian, Amser, Tablau Amser, Trin Data ac yn edrych ar ffyrdd i'w haddysgu o ystyried y byd rydyn ni'n byw ynddo heddiw. Mae'n archwilio ffyrdd o ddefnyddio technoleg a chymhelliant myfyrwyr i addysgu.
Cefnogi Cymorthyddion Cefnogi Dysgu i ddatblygu Matawybyddiaeth
Mae’r ‘Education Endowment Foundation’ yn cyfeirio fod dysgu strategaethau metawybyddiaeth fel cynllunio,monitor, ac arfarnu yn cael effaith bositif ar ganlyniadau disgyblion.Mae’r adroddiad yn amlinellu saith argymhelliad allweddol sy’n cynnig cyngor ymarferol i athrawon ac uwch-arweinwyr sut i dddatblygu sgiliau metawybyddiaeth a gwybodaeth,fodd bynnag cymhorthyddion cefnogi dysgu sydd yn y safle orau i gyflawni hyn.Bydd y sesiwn yn edrych ar gefnogi Cymorthyddion i helpu’r disgyblion i ddatblygu sgiliau dysgu’n annibynnol a bod yn gyfrifol am eu dysgu eu hunain.
Sicrhau nad ydy sancsiynau ymddygiad ddim yn effeithio ar faterion Iechyd Meddwl
Un o’r materion y mae addysg yn cael anhawster hefo ydy rheoli ymddygiad.Rydym yn aneffeithiol yn ein defnydd o sustemau cosbi a gwrthdaro.Mae angen rhoi sylw hefyd i iechyd meddwl y myfyrwyr, yn arbennig myfyrwyr ‘Neurodiverse.’ Bydd y sesiwn yn edrych ar sut mae’r elfennau cyffredin o sustemau rheoli ymddygiad yn gallu bod yn niweidiol i iechyd meddwl myfyrwyr, yn ogystal â bod yn groes i warchod arweiniad y Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Byddwn yn trafod sut mae eich sefydliad yn gallu asesu eich sustem cynnal ymddygiad a gwneud addasiadau i leihau niwed i’r myfyriwr.
Cadw a chynnal athrawon o fewn y proffesiwn – beth sydd angen ei feithrin mewn darpar athrawon?
Honnir gan sawl ymchwil bod athrawon ledled y byd yn gadael y proffesiwn un ai yn fuan yn eu gyrfa neu'n ymddeol yn gynnar iawn (Harrison, Newman & Roth, 2006; Perrachione, Rosser & Petersen, 2008; Dolton & Van der Klauuw, 1995). Mae'n broblem byd eang, nid dim ond yng Nghymru. Ond sut mae sicrhau bod athrawon yn parhau ac yn ffynnu yn y proffesiwn? Dewch i ddysgu mwy yn y seminar hwn.