Seminarau Sioe Llandudno 2023
Ein Seminarau
Trefnu yn ôl amser
Trefnu yn ôl amser
Clir
09:00 – 09:50
Dydy Gwahaniaethu (ymarfer ymaddasol) ddim yn air na ddyliwn ei ddefnyddio!
Yn ystod y sesiwn bydd Nina Jackson yn rhannu strategaethau gwahaniaethol gyda chi, ynghŷd â gweithgareddau a chyfleoedd i’r holl ddisgyblion ddatblygu eu hoffter at ddysgu, tra hefyd yn cael y cyfle i serennu a bod yn unigryw ac arbennig.
09:00 – 09:50
Seminar ADY
Strategaethau bach a mawr i chwalu’r myth am y synhwyrau.
Bydd y sesiwn yma’n chwalu rhai mythau cyffredin am strategaethau synhwyraidd ac yn rhoi mewnwelediad sydd wedi’i gefnogi gan ymchwil,gan adfyfyrio ar ymarferion synhwyraidd effeithiol.
09:00 – 09:50
Bring Me The Head Of Willie Wonka
Yn y sesiwn bydd Hywel yn cefnogi cydweithwyr a mynd â nhw’n ȏl i’w dychymyg proffesiynol drwy gefnogi’r plentyn drwy lens y Cwricwlwm i Gymru.
09:00 – 09:50
Hapusrwydd mewn Addysg
Mae’r seminar hon wedi’i chynllunio i ddysgu addysgwyr am bwysigrwydd iechyd meddwl a lles yn ogystal â deall sut i gynnal eu iechyd meddwl mewn ffordd bositif ac ymarferol. Bydd amser hefyd yn cael ei roi i edrych ar ffyrdd i helpu pobl ifanc i deimlo’n fwy hyderus a gwydn.Bydd y sesiwn yn hwyliog a rhyngweithiol.
09:00 – 09:50
Seminar ADY
GWERTHU ALLAN!! Cefnogi plant gydag Anghenion Dysgu Ychwanegol
Mae'r seminar hon wedi GWERTHU ALLAN!
Speaker image
Lorraine Petersen OBE

09:00 – 09:50
Cynllunio’n strategol er mwyn paratoi ar gyfer cyflwyno Cwricwlwm i Gymru gan ystyried anghenion yr ardal leol a gan sicrhau profiadau arloesol i bobl ifanc Dyffryn Conwy
Taith Ysgol uwchradd yng Ngogledd Cymru wrth iddynt lunio'n strategol er mwyn cynllunio cwricwlwm unigryw i bobl ifanc yr ardal. Bydd y cyflwyniad yn gyfle i gael blas ar sut mae'r ysgol wedi cynnwys y pedwar diben, y medrau a'r datganiadau o'r hyn sy'n bwysig wrth gynllunio a gwireddu'r cwricwlwm lleol sydd yn diwallu anghenion pobl ifanc yr ardal.
09:00 – 09:50
Adeiladu Diwylliant o Lafaredd yn yr Ystafell Ddosbarth
Grymuso staff gyda’r sgiliau, yr offer a’r strategaethau i weithredu llafaredd fel gweithgaredd pwrpasol yn yr ystafell ddosbarth ac o amgylch yr ysgol. Mae llafaredd yn arf pwerus ar gyfer pob pwnc ac mae’r gweithdy hwn yn archwilio sut y gellir ei ddefnyddio i ysbrydoli disgyblion i ‘ddod o hyd i’w llais’, mynegi barn, adeiladu eu hyder a dyfnhau eu dysgu.
10:30 - 11:20
Asesiad Ffurfiannol- ymarfer yr egwyddorion
Bydd Shirley Clarke sy’n arbenigwraig fyd-eang ar asesu ffrurfiannol yn eich tywys drwy’r elfennau cyd-ddibynnol o’r jig-so asesu ffurfiannol, gan gysylltu tystiolaeth hefo ymarferion cyfredol wedi’u casglu gan sawl aelod o’i hamryw dimau dysgu
10:30 - 11:20
Seminar ADY
GWERTHU ALLAN!! Lleisiau Lles: Y chwe cylch o les emosiynol a meddyliol
Mae'r seminar hon wedi GWERTHU ALLAN!
Speaker image Speaker image
Nina Jackson, Kelly Hannaghan
10:30 - 11:20
Seminar ADY
Hyrwyddo Egni a Phositifrwydd i staff sy’n gweithio â phlant
Bydd Jenny’n siarad am bwysigrwydd arwain drwy esiampl a chryfhau ein lefelau egni ac empathi fel y gallwn greu perthynas gryf, ofalgar a hollgynhwysol yn ein cymunedau dysgu ar gyfer pawb.
10:30 - 11:20
Mae Pethau’n Newid: Byddwch yn barod i Newid
Pan mae’r byd ar ei waethaf mae’n fwy pwysig i wybod sut i fod ar eich gorau! Bydd y seminar yma’n rhoi hwb i chi gofio sut i ddisgleirio. Meddyliwch amdano fel uwchraddiad personol sy’n eich galluogi i ffynnu heb falio beth mae’r byd yn ei daflu atoch. Yr amcan ydy addysgu, ysbrydoli, a diddori gydag adnoddau lles fydd yn addas ar gyfer y cartref a’r ysgol.
10:30 - 11:20
GWETHU ALLAN! Dysgu tu allan ar gyfer y Cwrcwlwm Newydd: Cydio a mynd
Seminar yma wedi gwerthu allan!
Speaker image
Polly Snape a Carolyn Burkey
10:30 - 11:20
Seminar ADY
Dylai nod eich arswydo ychydig, ond ar y llaw arall dylai eich cynhyrfu’n llwyr.
Ydy’r cyd-bwysedd yn iawn gennych chi? Bydd y sesiwn hon yn edrych ar bwysigrwydd cynnal y ‘cynnwrf’ a’r llawenydd a ddaw yn sgîl y swydd (nid mewn ffordd ‘gawslyd’!) Gyda’n gilydd fe fyddwn yn rhoi sialens i’n ffordd o feddwl a’n calonnau. Byddwn yn trafod sut i gael y cyd-bwysedd yn iawn, a sut y gallwn arwain a dysgu drwy gynnwrf a llawenydd heintus.Ydyn ni’n sylweddoli sut mae hyn yn yn edrych yn ein meddyliau, neu ydyn ni’n teimlo hyn yn ein calonnau? Beth am ddod â’r cynnwrf sy’n perthyn i’r swydd orau yn y byd yn ȏl i’n cymunedau ysgol!
10:30 - 11:20
Seminar ADY
Ydy eich ysgol wedi ymgorffori’r Cȏd ADY ar gyfer Cymru yn llwydiannus?

Daeth y system newydd ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) i rym ym Medi 2021 a dechrau cael ei weithredu o Ionawr 2022. Mae’r sialens o symud bron i 100,000 o ddisgyblion i’r trefniadau statudol newydd ynghanol ôl effeithiau’r pandemig yn anodd iawn. Bydd y sesiwn yn adlewyrchu effeithiolrwydd y newidiadau wrth iddynt gymryd lle.
Speaker image
Lorraine Petersen OBE

10:30 - 11:20
‘Rwyf wedi ei ddysgu, ond a yw fy nisgyblion wedi ei ddysgu’?
Bydd y seminar yn edrych ar rai penawdau o waith ymchwil i helpu plant gaffael mwy o wybodaeth, cofio mwy, a gwneud mwy o waith dros amser gan drafod beth mae’r dystiolaeth yn ei ddweud wrthym am gefnogi disgyblion, a sut i fynd i’r afael â gwaith heriol a diddorol. Edrychir, er enghraifft, ar bwysigrwydd cysyniadau, hyrwyddo chwilfrydedd a chwisiau.
10:30 - 11:20
Pŵer hyfforddi cyfoedion ar gyfer staff a disgyblion.
Darganfyddwch sut mae hyfforddi cyfoedion yn gallu datblygu hunan-reolaeth, gwydnwch a gwella cynnydd athrawon a disgyblion. Mae’r hyfforddi gorau yn adlewyrchu ein ffordd o feddwl fel y gallwn ddatblygu ein strategaethau metawybyddol a dysgu sut i feddwl am ein ffyrdd ni o feddwl, ac yna fynd ymlaen i ddatblygu hyblygrwydd gwybyddol i ymdopi gyda newid a sialens. Byddwch hefyd yn cael cyfle i ymarfer strategaeth 7 munud i’w ddefnyddio gyda’ch cydweithwyr, y disgyblion neu chi eich hun.
12:00 – 12:50
Seminar ADY
Beth sydd mewn label? Niwroamrywiaeth
Yn y seminar yma, sef ‘What’s in a label’ bydd Karen yn esbonio beth mae’r term niwroamrywiaeth yn ei olygu a’r sialensau a chryfderau y mae plant a phobl ifanc yn wynebu mewn ysgol a choleg. Byddwch yn gadael y seminar hefo technegau a strategaethau syml i godi eich hyder.
12:00 – 12:50
‘BOTHEREDNESS and C4W’: a reverie in stories, stance and pedagogy’
Yn y sesiwn bydd Hywel yn dod â’i lyfr ‘Botheredness, stories, stance and pedagogy’ yn fyw! Bydd yn sesiwn ymarferol o storïau, chwerthin, syniadau ac ymchwil.
12:00 – 12:50
Gwydnwch Meddyliol: Datblygu Gwydnwch Myfyrwyr
Mae datblygu gwytnwch myfyrwyr bellach yn cael ei ystyried yr un mor bwysig â dysgu a lles academaidd. Yn ôl ymchwil bod myfyrwyr gwydn yn cyflawni presenoldeb uwch, ymddygiad mwy cadarnhaol, ac yn cyflawni canlyniadau academaidd gwell. Mae’r sesiwn hon wedi’i chynllunio i gyfranogwyr gael dealltwriaeth ddyfnach yn ogystal ag archwilio llawer o ddulliau a strategaethau ymarferol sy’n seiliedig ar ymchwil i gefnogi adeiladu gwydnwch mewn myfyrwyr.
12:00 – 12:50
Seminar ADY
Cydnabod ADY/AAA yn y Blynyddoedd Cynnar
Mae tystiolaeth gyffredin bod ymyrraeth gynnar yn gwella canlyniadau i blant ADY/AAA a bydd y sesiwn hon yn helpu gweithwyr addysg proffesiynol i adnabod y dangosyddion yn ifanc. Bydd Sam hefyd yn edrych ar y llwybrau a’r oedrannau isaf ar gyfer unrhyw ddiagnosis a sut y gellir darparu cymorth mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar.
12:00 – 12:50
WEDI GWERTHU ALLAN!!! Y Cwricwlwm Newydd
Mae'r seminar hon wedi GWERTHU ALLAN!
12:00 – 12:50
Stori Mistar Mostyn a hanesion eraill
Cyflwyniad i nofel hanesyddol newydd sydd wedi'i lleoli yn Llandudno sy'n cynnig llwybrau diddorol ar lawr y dosbarth. Mae llawer o alwadau wedi bod dros y blynydoedd diwethaf am gyflwyno Hanes Cymru yn llawnach ac yn fwy diddorol i holl blant Cymru. Dyna union fwriad Dr Elin Jones wrth iddi fynd ati i gyflawni uchelgais oes a chreu dwy gyfrol: Hanes yn y Tir a History Grounded.
12:00 – 12:50
WEDI GWERTHU ALLAN!! Pwysigrwydd Teulu
Mae'r seminar hon wedi GWERTHU ALLAN!
12:00 – 12:50
Y ‘Digital Pencil Case’: power technoleg i wella dysgu ar draws y cwricwlwm.
O Saesneg i Wyddoniaeth, o Gelf i ABaCH, bydd y cyflwyniad hwn yn rhoi gwersi ymarferol i fynd ag addysgwyr drwy apps, gwefannau a phrosiectau all gael eu defnyddio'n hawdd i wella'r ffordd y mae disgyblion yn dysgu.
13:30 – 14:20
Bod yn wych: Lansiad i’ch lles
Wedi’i seilio ar wyddoniaeth seicoleg positif, mae’r sesiwn hon sydd wedi’i seilio ar dystiolaeth ond gyda’r geiriau mawr wedi’u hepgor â’u cyfnewid am synnwyr cyffredin, gydag egwyddorion y gallwch eu dilyn, a chael hwyl. Mae’r sialens yn glir- codi eich ‘normal newydd’ i safon fyd-eang.
13:30 – 14:20
Gobaith- Sut i fod ar eich gorau, a hynny’n fwy aml
Sut ydych chi’n dygymod â ‘Byw a rhoi’r Hud’ yn eich dysgu ffantastig? Dydy bod ar eich gorau drwy’r amser ddim yn gynaliadwy, a ddyliwn ni ddim gadael y nod o berffeithrwydd na allwn byth ei gyrraedd ein gadael yn teimlo’n rhwystredig ac annigonol.Ond MAE ffyrdd lle y gallwn fod ar ein gorau yn amlach, ac yn y sesiwn oleuedig hon bydd Sid Madge yn ein helpu i ddatblygu hyder a’r sgiliau i wneud hynny.
13:30 – 14:20
Therapi Cerddoriaeth a Chyfathrebu
Nid ydych angen siarad.Mae cerddoriaeth yn siarad â phawb. Gall Therapi Cerddoriaeth helpu pawb i ‘siarad’ hyd yn oed heb eiriau. Byddwn yn edrych ar ffyrdd i weithio hefo plant sydd yn ddi-iaith gan gynnwys y rhai awtistig, yn fud, yn fyddar neu unrhyw anhwylderau cyfathrebu eraill. Gan ddefnyddio amrywiaeth o gemau, celf, storïau TGCH a thasgau byrfyfyr byddwn yn ymchwilio i sut y gallwn ddatblygu ffyrdd o gyfathrebu yn gorfforol, gweledol a thrwy wneud sŵn.
13:30 – 14:20
Yr elfen hudol sydd mewn metawybyddiaeth i helpu dysgu a lles.
Sut a pham mae ‘meddwl am feddwl’ yn effeithio ar ddysgu ac iechyd meddwl.Mae angen i ni helpu myfyrwyr ddatblygu arferion metawybyddiaeth o ddydd i ddydd yn ein dosbarthiadau. Mae’r sesiwn yn cynnig cyngor ar sut i reoli eich meddwl a datblygu gwydnwch emosiynol, yn ogystal â strategaethau ymarferol a chyflwyniad i ‘Buddhism in a Box’ – fy nghyngor syml ar sut i feithrin meddwl cryf ar gyfer llwyddiant i’r dyfodol a’ch lles.
13:30 – 14:20
‘Gadewch i mi ddweud stori’
Ein ymennydd stori ‘breintiedig’. Byddwn yn edrych ar hyn a rhannu syniadau ar gyfer defnyddio straeon yn ein cynlluniau cwriwcwlwm.
13:30 – 14:20
Goresgyn rhwystrau i fathemateg Cynradd
Rydym yn gwybod fod sgiliau llythrennedd a rhifedd yn gwella siawns ein pobl ifanc mewn bywyd.Fodd bynnag nid yw cyfartaledd arwyddocaol o blant yn cyrraedd y safon ddisgwyliedig mewn mathemateg pan yn cyrraedd yr ysgol uwchradd. Ni ddylem deimlo’n gyfforddus gyda hyn, ac nid ydy pethau’n gorfod bod fel hyn. Mae Ben Harding yn Bennaeth profiadol, arolygydd ac arbenigwr mewn mathemateg.Yn y sesiwn hon bydd yn adnabod rhai rhesymau am yr elfen bryderus hon, ac yn edrych a rhannu datrysiadau ymarferol ar sut y gellid diwallu’r broblem yn eich ysgol.
13:30 – 14:20
Iechyd Meddwl – Beth ydyw yn syml!
Mae yna lawer o ddamcaniaethau ynghylch hapusrwydd ac iechyd meddwl cadarnhaol ond maen nhw i gyd yn berwi i lawr i'r un ychydig o egwyddorion - mae rhai yn dweud bod yna 3 ffactor!! Ymunwch â'r sesiwn hon i ddarganfod beth yw'r tri ffactor hynny a sut y gall eu deall ein helpu yn effeithiol, ac yn syml, i gefnogi iechyd meddwl ein myfyrwyr a ni ein hunain!
15:00 – 15:50
Seminar ADY
GWERTHU ALLAN! Pwysigrwydd Chwarae a chael Hwyl ar gyfer Lles Plant
Mae'r seminar yma wedi gwerthu allan!
15:00 – 15:50
Adeiladu Hyder yn eich Corff, Hunan-barch a Gwydnwch
Mae delwedd corff negyddol yn cyd-fynd â diffyg cyfrannu yn y dosbarth. Felly mae’r ‘Dove Self-Esteem Project’ wedi datblygu adnoddau sydd yn helpu i wella delwedd corff a gwneud y dysgwyr deimlo’n fwy hyderus i gymryd rhan mewn bywyd. Bydd y sesiwn yn rhoi cyflwyniad i’r project ‘Amazing Me’ – adnodd ar gyfer Cynradd a ‘Confident Me’ – adnodd ar gyfer Uwchradd. Bydd cyfranogion y cwrs yn cael ffon USB yn rhad ac am ddim gydag adnoddau arno.
15:00 – 15:50
Yr Hud mewn Addysg
Mae elfen o hud ynom i gyd.Gadewch i Sid Madge ddarganfod yr hud hwnnw a gwneud iddo weithio i chi.Yr allwedd i’r hud hwnnw ydy DYSGU. Mae dysgu yn hanfodol i gymdeithas, yr economi ac yn greiddiol i ni’n hunain.
15:00 – 15:50
Seminar ADY
Sut y gall dysgu gweithredol drawsnewid eich ysgol!
Yn dilyn cofid mae ymchwil sydd wedi’i gynnal yn genedlaethol yn dangos fod penaethiaid yn poeni am y bylchau mewn dysgu, lles meddyliol ac emosiynol a diffyg ymarfer corfforol y disgyblion. Gyda gymaint o bwysau ar y diwrnod ysgol, bydd Jon yn trafod sut y gall intigreiddio symudiadau i mewn i bynciau’r cwricwlwm ddim yn unig yn cryfhau lefelau o weithgarwch, ond hefyd yn codi lefelau cyrhaeddiad, a datblygu’r plentyn cyflawn.
15:00 – 15:50
Hyder yn ȏl y galw
Yn y sesiwn hwyliog a rhyngweithiol yma byddwch yn deall mai hyder yw’r allwedd, a byddwch yn gadael y sesiwn hefo syniadau ymarferol i ddatblygu a chynnal hyder mewn unrhyw sefyllfa.
15:00 – 15:50
Cyflwyno egwyddorion trochi cynnar a hwyr effeithiol.
Mapio llafaredd o fewn Maes Dysgu Ieithoedd,Llafaredd a Chyfathrebu gan rannu syniadau ac adnoddau i atgyfnerthu patrymau iaith cywir
15:00 – 15:50
Codi Llwyddiant Bechgyn
This seminar talks about tracing under-achievement in boys from pre-school to 16, and looks at we can do to prevent it. Gary will explain how to interact with boys to optimise learning and overcoming barriers to achievement.
15:00 – 15:50
Sut gall amgueddfeydd gefnogi eich gwaith yn y dosbarth?
Mae profiadau dysgu tu allan i’r dosbarth yn ran bwysig o’r siwrne i wireddu’r pedwar diben – yn y seminar yma bydd Lowri Ifor o Amgueddfa Cymru yn trafod y ffyrdd gwahanol y gallwch ddefnyddio ymweliadau ag amgueddfeydd i gyfoethogi eich cwricwlwm ar draws y meysydd dysgu a phrofiad, yn ogystal a ffyrdd gwahanol i ymgysylltu yn rhithiol o’r stafell ddosbarth.