Mae rhai disgyblion yn gyrru’n fi’n wallgo a gwneud i mi deimlo’n rhwystredig!

Rydym yn gwybod fod trawma yn gallu bod wrth wraidd ymddygiad heriol ac mae’n gallu bod yn anodd gwybod sut y gallwn helpu ni’n hunain ac eraill yn y sefyllfaoedd anoddaf.

Mae ‘Strengths Psychology’ yn arloesol i ddeall ein hunain ar ein gorau [neu waethaf!] a gallu gweld a datblygu y gorau mewn eraill.

Mae’r seminar yn eich rhoi ar ben ffordd yn ymarferol cam wrth gam ar fod yn ystyriol o drawma ar gyfer y rheini sydd eisiau teimlo’n fwy hyderus, yn hunan-ymwybodol ac mewn rheolaeth pan yn delio hefo disgyblion mewn sefyllfoaedd o ymddygiad heriol.

Fe gewch adnoddau parod i’w defnyddio hefo disgyblion neu athrawon i ddarganfod cryfderau eu personoliaethau naturiol sydd wedi cael eu profi mewn ymchwil i wella hunanbarch, hunanymwybyddiaeth, hyder, cymhelliant a gwytnwch.

Bydd y sesiwn yma drwy gyfrwng Saesneg.

Addas i bawb.

Cat Williams

Clinical Hypnotherapist, Rapid Transformational Therapist, Psychotherapist, Speaker, Author