Yn gryfach gyda’n gilydd: Meithrin gwydnwch a llesiant drwy hyfforddi

Yn y seminar rhyngweithiol ac ysbrydoledig hwn, bydd Dyddgu Morgan-Hywel yn archwilio sut y gall strategaethau llesiant sy’n seiliedig ar hyfforddi gryfhau ymysg athrawon a chymunedau ysgol. Gan dynnu ar ei phrofiad fel hyfforddwraig llesiant, yn ogystal â’i chefndir fel athletwraig rygbi ryngwladol, mae Dyddgu yn cynnig safbwynt unigryw ar wydnwch meddyliol, gwaith tîm a thwf personol. Bydd y sesiwn yn amlygu sut y gall egwyddorion hyfforddi megis gwrando gweithredol, gofyn cwestiynau myfyriol a gosod nodau alluogi athrawon i ffynnu’n bersonol ac yn broffesiynol. Disgwylwch gymysgedd o drafodaeth ac adfyfyrio a fydd yn eich gadael yn teimlo’n gadarn, wedi’ch ysbrydoli ac yn barod i feithrin gwydnwch yn eich hun ac eraill.

Iaith: Cymraeg | Cynulleidfa: Pawb

Dyddgu Morgan-Hywel

Hyfforddwraig Llesiant