Lles: Nid yn unig yn air ffasiynol!

Beth ydy lles ar gyfer ysgol gyfan a sut allwn ni ymgyrraedd ato?
Mae’r cyn-athrawes Frederika Roberts wedi bod yn hyfforddi arweinwyr ysgol,athrawon a myfyrwyr am ddegawd mewn ffyrdd sydd yn gwella lles drwy ymarferiadau wedi’u sylfaenu ar dystiolaeth mewn ymchwil i les seicolegol.

Mae wedi ysgrifennu/cyd-ysgrifennu a golygu llyfrau ar bositifrwydd, ‘character education’ a lles ysgol gyfan ac mae’n astudio ymchwil mewn doethuriaeth wedi’i seilio ar gryfder prosesau sy’n ymwneud â phawb mewn ysgol i wella lles.

Yn y seminar yma bydd yn rhannu ffyrdd syml ac ymarferol i gefnogi eich lles eich hun yn ogystal â’ch cyd-weithwyr a’r myfyrwyr yn eich ysgol neu goleg.

Bydd y sesiwn yma drwy gyfrwng Saesneg

Frederika Roberts MAPP PGCE