Ymateb i gwestiynau anodd wrth drafod perthnasoedd ac addysg rhyw

Un o’r rhesymau pam fod athrawon yn bryderus am addysgu Perthnasoedd ac addysg rhyw ydy sut i ateb y cwestiynau y mae plant a phobl ifanc yn debygol o’u gofyn.

“Sut ydw i’n ymateb os ydyn nhw’n gofyn HYNNA!”

Bydd y sesiwn ymarferol yma yn ein hatgoffa o bwysigrwydd sefydlu cytundebau grŵp ar ddechrau pob gwer , a chysidro rhai sgriptiau micro fel Sylfaen ar gyfer gweithio.
Yna byddwn yn ymarfer ymateb i gwestiynau anodd mewn ffyrdd sy’n hybu hyder yr athro.
Bydd y rhai sydd â chyfrifoldeb arweinyddion yn gallu gweithredu hyn fel DPP yn eu hysgolion.

 

Bydd y sesiwn yma drwy gyfrwng Saesneg

John Rees