Gweithio’n glyfrach ddim yn galetach

Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial [AI] i gefnogi dysgu ac addysgu’n y dosbarth. Bydd yn sesiwn yn cynnwys Mr P yn rhannu a dangos ffyrdd effeithiol y gall Deallusrwydd Artiffisial helpu a chefnogi athrawon yn y dosbarth.

**GWERTHU ALLAN** Dreigiau – anturiaeth mewn ysgrifennu creadigol

**Mae’r seminar hon nawr wedi GWERTHU ALLAN** Am dros 40 mlynedd mae Pie Corbett wedi bod yn dennu a dofi dreigiau i danio dychymyg yr ifanc. Yn y gweithdy deinamig hwn byddwch yn cael mynediad i fyd hudolus creaduriaid mytholegol ac yn edrych ar farddoniaeth byr [‘short-burst poetry] adroddiadau newyddion ac ysgrifennu gwybodaeth. O greu … Continued

Gemau a mwy o gemau! **Wedi gwerthu allan am 13:30**

**Mae’r seminar hon wedi gwerthu allan am 13:30** Bydd unrhyw un sydd wedi bod ar un o’n cyrsiau hyfforddi yn gwybod ein bod yn credu bod dysgu ar ei orau pan mae’n hwyl, ac ein bod yn hoffi dysgu cymaint â phosib trwy gemau. Bydd ein gweithdy yn eich tywys drwy addasu rhai o’n gemau … Continued

Dilyn Diddordeb y Plentyn – cyn cam cynnydd 1.

Yn ystod y seminar hwn byddwn yn edrych ar; Sut mae lleoliadau blynyddoedd cynnar yn rhoi’r plentyn yn y canol a defnyddio eu diddordebau i gefnogi eu datblygiad. Rhoi profiadau dilys a phwrpasol i blant bach Sut all ysgolion ddefnyddio’r profiadau i gefnogi plant meithrin Rhannu arferion da a syniadau Seminar hwn yn addas ar … Continued

Pam fod sefyllfoaedd sy’n ystyriol o drawma yn hanfodol

Bwriad y sesiwn ydy cynnig dealltwriaeth o’r effaith all gael ei achosi gan brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod a’r adwaith yn y pen draw ar gynnydd a sut y mae’r plentyn yn dysgu. • Effaith trawma ar fywyd a dysgu • Be all gwyddoniaeth ymenyddol blaengar ac ymchwil seicolegol ei ddysgu i ni • Y … Continued

**WEDI GWERTHU ALLAN** GONGONEDDUS – Therapi Sain

**Mae’r seminar hon nawr wedi GWERTHU ALLAN** Trochfa Sain / Gong bath Dewch i ymuno a Leisa Mererid am sesiwn ymlaciol yng nghwmni’r gongs. Dewch a mat, blanced a chlustog gyda chi i greu nyth clyd! Addas ar gyfer bawb.

Trawsnewid Addysg gyda Ffitrwydd y Meddwl

Ffitrwydd y meddwl ydy’r arf cudd ar gyfer bownsio’n ȏl o sefyllfaoedd anodd. Fel ffitrwydd y corff fe allwch hyfforddi eich meddwl i weld sialensau fel cyfloedd a rhywbeth da. Yn y sesiwn llawn egni yma, byddwch yn dysgu technegau ymarferol i ail-gysylltu eich ymennydd yn bositif a gwydn. Byddwch yn barod i chwalu eich … Continued

**WEDI GWERTHU ALLAN** Bydd cerddoriaeth yn siarad pan fo geiriau’n methu.

**Mae’r seminar hon nawr wedi GWERTHU ALLAN** Mae therapi cerddoriaeth yn adnodd sydd yn gallu cefnogi plant sydd hefo anhwylderau iechyd meddwl drwy fynegi eu hemosiynau drwy gerddoriaeth neu weithgareddau creadigol eraill lle mae mynegiant geiriol ar goll neu’n anodd. Drwy therapi cerddoriaeth gall plant ddechrau rhoi trefn ar eu meddyliau, teimladau ac emosiynau i … Continued

Morâl staff: Ydy’ch staff chi wedi’u hysgogi?

Gyda nifer fawr o athrawon yn gadael y proffesiwn, a llawer o ysgolion yn wynebu argyfwng mewn recriwtio, mae’n amserol i adlewyrchu ar ffyrdd y gall arweinyddion ysgol ysgogi staff. Bydd y seminar yma’n edrych ar nifer o ddulliau i ysgogi staff ac edrych ar strategaethau y gellid eu defnyddio mewn ysgolion i hyrwyddo, cynnal … Continued