Seminarau Llandudno 2025
Ein Seminarau
Trefnu yn ôl amser
Trefnu yn ôl amser
Clir
09:00 – 09:50
Defnyddio amser cylch sy’n fywiog ac o ansawdd da i hyrwyddo Lles y Plentyn mewn awyrgylch ddosbarth bositif a thawel.
Bydd Jenny yn disgrifio y camau pwysig a chanllawiau ar gyfer Amser Cylch,a thynnu sylw at y Pum Sgil Cyfathrebu sy’n hanfodol i hyrwyddo Amser Cylch. Darllen mwy...
09:00 – 09:50
Seminar ADY
Dysgu ac addysgu mewn byd Niwroamrywiaethol
Yn ystod y sesiwn bydd Nina Jackson sy’n addysgwr mewn niwroamrywiaeth yn eich arwain, rhannu strategaethau, sgiliau a syniadau i gefnogi dysgu ac addysgu mewn byd niwroamrywiaethol. Darllen mwy...
09:00 – 09:50
Gwneud y Mwyaf o’r We fel Athro
Yn y sesiwn bydd Mr P yn rhannu a dangos llu o adnoddau am ddim sydd ar gael i athrawon fel defnydd i wella dysgu yn y dosbarth.
09:00 – 09:50
Seminar ADY
Cefnogi plant a phobl ifanc sydd hefo ADHD mewn ysgolion-y prif strategaethau cyffredinol.
Bydd y sesiwn yn edrych ar brif strategaethau sut i gefnogi’r Meddwl Gweithiol a’r canolbwyntio anghyson [Working Memory and Variable attention] a sut y gellid cefnogi’r rhain mewn lleoliad dosbarth i hyrwyddo deilliannau dymunol ar gyfer dysgwyr sydd hefo ADHD. Bydd y sesiwn yn clymu pob strategaeth gyda proffiliau niwrowybyddol o ADHD, yn cynnwys rhywedd.
09:00 – 09:50
Hyfforddiant cyfundrefnol wrth galon lles a iechyd
Bydd datblygu’r diwylliant o hyfforddi yn cael yr effaith mwyaf positif ar bobl s’yn gweithio mewn ysgolion, ac yn y pen draw ar blant a’u teuluoedd. Mae hyfforddi arweinyddion a datblygu hyfforddi mewn ysgolion yn ffordd bwerus i arfogi pobl hefo’r awtonomiaeth angenrheidiol i siapio yr amgylchedd addysgol lle maent yn gweithio. Darllen mwy...
09:00 – 09:50
Gweledigaeth 2025: Hyder, ymgysylltu a bod yn amlwg.
Yn y sesiwn hon byddwn yn cymysgu syniadau ymarferol hefo meddwl yn ddwys. Mae Martin Illingworth awdur ‘Forget School’ yn darparu ffyrdd ar sut y gall athrawon ffocysu’n well ar gefnogi pobl ifanc i sylweddoli fod pethau da yn eu bywydau presennol a’u potensial wrth fyw mewn byd sydd yn gyfnewidiol yn yr unfed ganrif ar hugain. Darllen mwy...
09:00 – 09:50
‘Primary Dragons’ Cymdeithas Pêl Droed [AFC] Wrecsam: Rhannu arfer dda
Mae Ymddiriedolaeth Cymdeithas pêl droed Wrecsam [Wrexham AFC Football Trust] mewn partneriaeth hefo ‘Achieve More Training’, Ymddiriedolaeth Chwaraeon Ieuenctid, ac ‘Active Wrexham’ wedi defnyddio eu cyhoeddusrwydd byd eang diweddar i wneud gwahaniaeth i gymunedau lleol yn Wrecsam drwy gynnwys ysgolion. Darllen mwy...
09:00 – 09:50
Adeiladu Pontydd: Strategaethau ar gyfer Addysgwyr i Ddatblygu Partneriaethau Positif gyda Rhieni
Mae’r sesiwn yma’n rhoi strategaethau i addysgwyr ac arweinyddion ysgol i gryfhau partneriaethau mewn addysg gyda rhieni, gan annog llwyddiant myfyrwyr yn unol â’r polisîau cenedlaethol. Darllen mwy...
09:00 – 09:50
Deall Dyslecsia mewn dysgwyr hŷn.
Cyfle i roi eich hun yn ‘sgidiau dysgwyr â Dyslecsia a chanolbwyntio ar arddulliau i hwyluso’r dysgu.
Speaker image Speaker image
Lowri Thomas, Mathew Williams
09:00 – 09:50
Syniadau ymarferol ar gyfer hyfforddi cyd-weithwyr rheolaeth ganol newydd
Mae’r seminar yn ceisio amlinellu sut i sicrhau rhaglen arweinyddiaeth dda o fewn yr ysgol gan ddenfyddio cyhoeddiadau diweddar ar sut i arwain o’r canol, yn ogystal â rhannu ei brofiad fel pennaeth yn datblygu arweinyddion. Darllen mwy...
10:30 - 11:20
Pwysigrwydd chwarae a’r buarth chwarae ar gyfer pob plentyn.
Bydd Jenny’n trafod materion allweddol cyffredin sydd i’w gweld ar y buarthau chwarae, sut i hybu chwarae iach a phrysur, ac annog cyfathrebu da rhwng y goruchwylwyr a’r plant, a syniadau lle y gall plant dderbyn cyfrifoldeb dros eu hymddygiad, a chefnogi’r broses o ddatrys problemau i ddatrys problemau’n y buarth. Darllen mwy...
10:30 - 11:20
Dod o Hyd i’r Swigod – Pedagogiaeth, Arfer, Lles Emosiynol, Gobaith a Hapusrwydd.
Bydd Nina Jackson yn eich ysbrydoli i fod y gorau y gallwch fod a ffyrdd o helpu plant a phobl ifanc i ganfod eu swigod wrth ddysgu. Bydd hwn yn ddiwrnod rhyngweithiol, ymarferol wedi’i lenwi â llawenydd, dathlu, deall eich hun a phobl eraill. Ar gyfer ein plant a ni ein hunain fel gweithwyr proffesiynol. Pedagogiaeth, Arfer, Lles Emosiynol, Gobaith a Hapusrwydd. COFIWCH DDOD Â DYFAIS DDIGIDOL GYDA CHI AR GYFER EIN SESIWN GYDA'N GILYDD. Darllen mwy...
10:30 - 11:20
Gweithio’n glyfrach ddim yn galetach
Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial [AI] i gefnogi dysgu ac addysgu’n y dosbarth. Bydd yn sesiwn yn cynnwys Mr P yn rhannu a dangos ffyrdd effeithiol y gall Deallusrwydd Artiffisial helpu a chefnogi athrawon yn y dosbarth.
10:30 - 11:20
Seminar ADY
Deall a chefnogi ADHD
Wrth ystyried y cynnydd mewn diagnosis o’r cyflwr ADHD, bydd y sesiwn yn edrych ar diagnosis deuol [dual diagnosis] a’r effaith y mae hyn yn ei gael ar blant a phobl ifanc yn yr ysgolion.Bydd y sesiwn yn edrych ar y prif strategaethau i gefnogi plant a phobl ifanc sydd hefo diagnosis deuol.[dual diagnosis]
10:30 - 11:20
Morâl staff: Ydy’ch staff chi wedi’u hysgogi?
Bydd y seminar yma’n edrych ar nifer o ddulliau i ysgogi staff ac edrych ar strategaethau y gellid eu defnyddio mewn ysgolion i hyrwyddo, cynnal ac ysgogi staff. Darllen mwy...
10:30 - 11:20
Seminar ADY
Bydd cerddoriaeth yn siarad pan fo geiriau’n methu.
Mae therapi cerddoriaeth yn adnodd sydd yn gallu cefnogi plant sydd hefo anhwylderau iechyd meddwl drwy fynegi eu hemosiynau drwy gerddoriaeth neu weithgareddau creadigol eraill lle mae mynegiant geiriol ar goll neu’n anodd. Darllen mwy...
10:30 - 11:20
Trawsnewid Addysg gyda Ffitrwydd y Meddwl
Yn y sesiwn llawn egni yma, byddwch yn dysgu technegau ymarferol i ail-gysylltu eich ymennydd yn bositif a gwydn. Darllen mwy...
10:30 - 11:20
GONGONEDDUS – Therapi Sain
Trochfa Sain / Gong bath Dewch i ymuno a Leisa Mererid am sesiwn ymlaciol yng nghwmni'r gongs. Darllen mwy...
10:30 - 11:20
Seminar ADY
Pam fod sefyllfoaedd sy’n ystyriol o drawma yn hanfodol
Bydd y seminar yn amlinellu sut i ddatblygu arferion mewn ysgol i gefnogi iechyd meddwl ar gyfer plant ac oedolion ym mhob sefyllfa bywyd. Darllen mwy...
10:30 - 11:20
Dilyn Diddordeb y Plentyn – cyn cam cynnydd 1.
Yn ystod y seminar hwn byddwn yn edrych ar; Sut mae lleoliadau blynyddoedd cynnar yn rhoi’r plentyn yn y canol a defnyddio eu diddordebau i gefnogi eu datblygiad. Rhoi profiadau dilys a phwrpasol i blant bach Sut all ysgolion ddefnyddio’r profiadau i gefnogi plant meithrin Rhannu arferion da a syniadau
10:30 - 11:20 - 12:00 – 12:50 - 13.30 - 14.20
Gemau a mwy o gemau!
Bydd ein gweithdy yn eich tywys drwy addasu rhai o'n gemau awyr agored syml i gwmpasu unrhyw nifer o themâu ac Ardaloedd Dysgu a Phrofiad. Darllen mwy...
Speaker image Speaker image
Polly Snape, Carolyn Burkey
12:00 – 12:50
Cysylltu yna Cywiro: Trawma, Ymlyniad, Profiadau niwediol yn ystod plentyndod [ACEs] o safbwynt oedolyn
Bydd y sesiwn ryngweithiol yn newid y ffordd yr ydych yn arwain a dysgu, gan ddatgelu effaith trawma, ymlyniad a phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod ar allu’r disgybl i ddysgu ac ymddwyn. Darllen mwy...
12:00 – 12:50
Sut i ddod â hapusrwydd i’r dosbarth heb golli’ch pwyll.
Gan ddefnyddio ymchwil diweddar bydd Hywel yn rhannu ffyrdd fydd yn eich galluogi i ragori’n eich rôl. Darllen mwy...
12:00 – 12:50
Byddwch wydn! Ffyrdd ymarferol o ddelio a datblygu disgyblion gwydn.
Mae’r sesiwn wedi’i chynllunio er mwyn gwella dealltwriaeth y cyfranogion yn ogystal ag edrych ar adnoddau ymarferol a strategaethau wedi’u seilio ar ymchwil i gefnogi ac adeiladu gwytnwch. Darllen mwy...
12:00 – 12:50
Siapiwch eich byd drwy ddarganfod eich llais
Mewn byd lle mae addysg yn brysur, swnllyd, mewn anghydfod a chreisis, mae’n fwy pwysig nag erioed i ddefnyddio ein llais yn hyderus a chlir ac yn y gobaith y byddwn yn cael ein clywed. Darllen mwy...
12:00 – 12:50
‘To Pride or not to Pride’
Yn y blynyddoedd diwethaf mae cynnal digwyddiad ‘pride’wedi dod yn achlysur newydd mewn ysgolion.Ydy’r rhain yn ychwanegiadau defnyddiol ar gyfer ysgolion neu gimic? Yn y sesiwn byddwn yn edrych ar resymau dros gael neu’n erbyn cynnal digwyddiad pride mewn ysgol, p’run ai y dylid cael clwb Pride, a ffyrdd gwahanol o ymgysylltu hefo ein cymuned ynglŷn â materion a hunaniaeth LHDTC+
12:00 – 12:50
(Ail) ddarganfod eich hapusrwydd!
Yn y seminar hynod ryngweithiol yma byddwch yn cael eich arwain drwy gwestiynau sydd wedi’u saernïo’n ofalus, a gweithgareddau mewn parau a grwpiau bach fydd yn eich helpu i ddarganfod: • Beth sydd yn eich gwneud yn hapus • Beth ydych chi’n falch ohono • Sut y gallwch roi ar waith fwy o’r hyn sydd yn eich gwneud yn hapus, a rhoi synnwyr o falchder a chyflawniad yn eich bywyd y tu mewn a thu allan i’ch gwaith. Darllen mwy...
12:00 – 12:50
Mini Me Yoga Ynys Mon: Strategaethau ioga a lles i blant cynradd
Cyfle i ddysgu sut i rannu technegau iechyd meddwl a lles i blant ar lawr dosbarth mewn modd syml a hwyl i blant ac athrawon. Cewch ragflas o strategaethau fwyaf poblogaidd rhaglenni Mini Me Yoga a sut i’w haddasu ar gyfer phob oedran a gallu.
12:00 – 12:50
Creadigrwydd Digidol ar draws y Cwricwlwm
Drwy gael y profiadau yn yr elfennau hyn bydd dysgwyr yn edrych ar ddulliau cyfathrebu electronig ac yn gwybod pa rai sydd fwyaf effeithiol. Bydd dysgwyr hefyd yn storio data ac yn defnyddio technegau cydweithio yn llwyddiannus. Darllen mwy...
12:00 – 12:50
Seminar ADY
Dileu rhwystrau i gefnogi ymddygiad i ddisgyblion AAA / ADY
Bydd y seminar hwn yn ystyried y rhwystrau y mae disgyblion ADY / AAA yn eu hwynebu yn y dosbarth ac o amgylch yr ysgol. Byddwn yn edrych ar strategaethau sylfaenol a dulliau i ddileu'r rhwystrau hyn a chefnogi ymddygiad cadarnhaol ar gyfer dysgu.
10:30 - 11:20 - 12:00 – 12:50 - 13.30 - 14.20
Gemau a mwy o gemau!
Bydd ein gweithdy yn eich tywys drwy addasu rhai o'n gemau awyr agored syml i gwmpasu unrhyw nifer o themâu ac Ardaloedd Dysgu a Phrofiad. Darllen mwy...
Speaker image Speaker image
Polly Snape, Carolyn Burkey
12:00 – 12:50
Hyrwyddo Lles Staff mewn Addysg
Yn y sesiwn hon, bydd Nicola yn archwilio diogelwch seicolegol, strategaethau ymarferol i gefnogi iechyd emosiynol, ac yn cyflwyno model seicoleg gadarnhaol i sefydlogi ac i wella lles meddwl yn yr ystafell ddosbarth a thu hwnt. Darllen mwy...
13.30 - 14.20
Llafaredd- Addysgu o Obaith a Gweithredu
Bydd Hywel yn edrych ar y canlynol: • Adrodd storïau a dysgu: sôn am yr ymchwil i sut mae storïau’n ymgysylltu a symbylu’r dysgwyr • Cynnwys arferion cyffrous drwy addysgeg Drama i fod o gymorth i ddealltwriaeth ar draws y Cwrwicwlwm • Hybu llafaredd gwych ar draws sbectrwm y cwricwlwm • Symud o ennyn diddordeb i fuddsoddi mewn dysgu • Sut i adeiladu tuag at arferion chwyldroadol • Byddwn hefyd yn cael hwyl!!
13.30 - 14.20
Y Plentyn ‘Ffrwydrol’! Rheolaeth dicter ar gyfer ysgolion a cholegau
Mae’r sesiwn wedi’i chynllunio i roi cipolwg ar nodweddion a seicoleg dicter ac edrych a deall beth sy’n sbarduno dicter. Yn ogystal, fe gewch adnoddau, technegau a strategaethau ymarferol i reoli a delio’n saff hefo rhai disgyblion/ myfyrwyr a sefyllfaoedd.
13.30 - 14.20
‘Bullying is so gay’
Yn y seminar yma byddwn yn edrych ar y rhesymau pam fod bwlio’n cymryd lle, a’r camgymeriadau sydd yn aml yn cael eu gwneud wrth ddelio wrth â bwlio, a’r hyn a allwch ei wneud i leihau achosion o fwlio gan wella bywydau’r holl ddisgyblion. Darllen mwy...
13.30 - 14.20
Cefnogi eich myfyrwyr i gyfathrebu’n effeithiol
Mae’r sesiwn wedi’i chynllunio i fod yn hwyliog a dymunol i’r holl rai fydd yn bresennol. Bydd athrawon yn gadael y sesiwn wedi cael eu hysbrydoli a’u sbarduno a hefo strategaethau parod i’w rhoi ar waith yn y dosbarth. Darllen mwy...
13.30 - 14.20
Gwytnwch 2.0: Croesawu sialensau a newid
Mae’r sesiwn wedi ei seilio ar yr ymchwil diweddaraf ac yn uwchraddiad personol i’ch helpu i ffynnu beth bynnag ddaw. Darllen mwy...
13.30 - 14.20
Gwahaniaeth, nid bod yn diffygiol: Strategaeth yr ‘AET’ i Ymarfer Dda mewn Awtisitiaeth
Bydd y seminar yma’n cael ei chyflwyno ar cyd gan Dr Sarah Broadhurst o’r ‘AET’ a Dr Morwenna Wagstaff arweinydd yr ‘AET’ yn Sir Fynwy. Darllen mwy...
Speaker image Speaker image
Dr Sarah Broadhurst , Dr Morwenna Wagstaff
13.30 - 14.20
STEM rhyngweithiol ar gyfer pynciau traws-gwricwlaidd
Mewn sesiwn ymarferol byddwch yn cael cyfle i gymryd rhan mewn arbrofion syml y gellid eu cysylltu hefo llu o feysydd eraill o fewn addysgu a phrofiadau.Bydd y sesiwn yn darparu adnoddau a dealltwriaeth ar sut y gellid defnyddio STEM i sbarduno dysgwyr o fewn pynciau ehangach a chwestiynau mawr. Darllen mwy...
13.30 - 14.20
Hybu Llythrennedd – adnoddau am ddim
Mae Gwasg Carreg Gwalch yn cyhoeddi straeon a nofelau deniadol a hwylus i ddarllenwyr dihyder. Mae gennym storfa o adnoddau addysgol a gweithgareddau hamdden (am ddim!) i gyd-fynd â'r cyhoeddiadau yma. Bydd Elen, Delyth a Myrddin yn cyflwyno'r cyfan yn y sesiwn hon.
Speaker image
Myrddin ap Dafydd, Elen a Delyth Medi
13.30 - 14.20
Osgoi ysgol yn seiliedig ar emosiynau
Bydd y seminar hwn yn edrych ar yr heriau i'n disgyblion o ran emosiynau a lles. Gan edrych ar sut y gall hyn arwain at osgoi ysgol a rhai ystyriaethau a strategaethau i'w cefnogi i ymgysylltu.
10:30 - 11:20 - 12:00 – 12:50 - 13.30 - 14.20
Gemau a mwy o gemau!
Bydd ein gweithdy yn eich tywys drwy addasu rhai o'n gemau awyr agored syml i gwmpasu unrhyw nifer o themâu ac Ardaloedd Dysgu a Phrofiad. Darllen mwy...
Speaker image Speaker image
Polly Snape, Carolyn Burkey
13.30 - 14.20
7 Problem arweinyddiaeth ysgol cyffredin a sut i’w trwsio
Mae Sonia Gill wedi gweithio gyda ysgolion am dros ddegawd ac mae rhai problemau'n codi dro ar ôl tro. Gellir trwsio pob un ohonynt. Dysgwch beth yw'r problemau cyffredin, a sut gallwch chi eu trwsio.
15:00 – 15:50
Darganfyddwch eich cryfderau- gwnewch eich bywyd yn haws ac yn fwy o hwyl
Yn y seminar ryngweithiol hon byddwch yn cael eich cyflwyno i gryfderau ‘VIA’, a sut mae gweithio hefo’r cryderau yn cefnogi’r unigolion a lles yr holl ysgol, ac yn gwella perthynas y tu mewn a’r tu allan i’r gwaith. Darllen mwy...
15:00 – 15:50
Cefnogi eich myfyrwyr i lwyddo’n y gweithle a thu hwnt
Sesiwn ymarferol a diddorol i addysgwyr sy’n chwilio i ddarparu sgiliau llafaredd allweddol sydd eu hangen i ffynnu yn y dosbarth a thu hwnt i’r dosbarth. Bydd y sesiwn wedi’i chysylltu â’r pedwar pwrpas yn y cwricwlwm Cymreig, ynghŷd â sut i gefmogi myfyrwyr drwy’r blynyddoedd pwysig yn y dosbarthiadau uwchradd. Darllen mwy...
15:00 – 15:50
Arbenigwyr Ifanc Awtistig: pwysigrwydd rhoi profiadau byw
Bydd y seminar yn cael ei chyflwyno ar y cyd gan Dr Sarah Broadhurst o’r ‘AET’ a Dr Morwenna Wagstaff arweinydd yr ‘AET’ yn Sir Fynwy. Os yn bosibl bydd person ifanc o Sir Fynwy hefyd yn cymryd rhan, er efallai y bydd yn well ganddynt recordio eu cyfraniad ymlaen llaw. Darllen mwy...
Speaker image Speaker image
Dr. Sarah Broadhurst, Dr. Morwenna Wagstaff
15:00 – 15:50
Prif Arweinydd Iechyd Meddwl: Arwain y ffordd hefo dylanwad ar Les Ysgol Gyfan
Mae’r seminar yma wedi’i chynllunio ar gyfer Arweinyddion Iechyd Meddwl, sy’n cynnig strategaethau hanfodol i hyrwyddo’r diwylliant o les ysgol gyfan. Darllen mwy...
15:00 – 15:50
Seminar ADY
Effaith ysgol y goedwig [‘Forest School’] ar blant hefo awstisitiaeth
Cafodd plant gyda diagnosis swyddogol o awtistiaeth le gan yr Awdurdod Addysg Lleol. Roedd y ddwy ysgol yn cael darpariaeth ysgol y goedwig ‘Forest School’ yn rheolaidd, ond yn cael ei ddarparu’n wahanol. Darllen mwy...
15:00 – 15:50
Mae rhai disgyblion yn gyrru’n fi’n wallgo a gwneud i mi deimlo’n rhwystredig!
Mae’r seminar yn eich rhoi ar ben ffordd yn ymarferol cam wrth gam ar fod yn ystyriol o drawma ar gyfer y rheini sydd eisiau teimlo’n fwy hyderus, yn hunan-ymwybodol ac mewn rheolaeth pan yn delio hefo disgyblion mewn sefyllfoaedd o ymddygiad heriol. Darllen mwy...
15:00 – 15:50
Cynnwys rhieni mewn ymyrraeth
Gall gwella perthynas rhwng y cartref a'r ysgol helpu i fynd i'r afael â phroblemau'n brydlon a datblygu strategaethau effeithiol i gefnogi dysgu'r plentyn. Darllen mwy...
Speaker image Speaker image
Dr Margiad Williams, Dr Anwen Rhys Jones
15:00 – 15:50
Datblygu lles, gofal a chymorth yng nghyd-destun egwyddorion trochi.
Strategaethau a dulliau trochi i datblygu medrau llafar yng nghyd destun llesiant. Pwysigrwydd creu diwylliant priodol i blant gaffael iaith.
15:00 – 15:50
Sut alla Charanga Cymru roi hyder a chefnogaeth i mi gyda cherddoriaeth yn y dosbarth?
Dewch i brofi sut all yr adnodd allweddol hwn eich cefnogi a'ch ysbrydoli chi a'ch disgyblion i fwynhau dysgu cerddoriaeth yn y dosbarth. Darllen mwy...
Speaker image
Manon Llwyd a Madeleine Casson
15:00 – 15:50
Mae magic yn hoelio sylw plant
Cyfle i chi gael eich rhyfeddu efo triciau hud a lledrith a phrofi eu gwerth wrth hybu hunan hyder a datblygu stratagethau i ymdopi ag emosiynau anodd. Darllen mwy...