Head & Heart Leadership

Bydd y sesiwn hon yn cyflwyno’ rhaglen ‘Head and Heart Leadership.’ Byddwn yn trafod pwysigrwydd arwain hefo’ch pen a’ch calon ac archwilio ffyrdd ar sut i gael y cyd-bwysedd yn iawn. Byddwch yn atgyfnerthu gwybodaeth am yr arweinyddiaeth ‘pen a chalon’ a mireinio y sgiliau angenrheidiol sydd eu hangen i arwain o’ch pen a’ch calon. … Continued

**Wedi gwerthu allan** Gwahaniaethu V Addysgu Addasol V Sgaffaldiau

**Mae’r seminar hon wedi GWERTHU ALLAN**   Bydd y gweithdy hwn yn archwilio y cysyniadau o Wahaniaethu, Addysgu Addasol a defnyddio Sgaffaldiau fel ffyrdd gwych i arfogi addysgwyr hefo dealltwriaeth well o’r strategaethau cyfarwyddol hyn. Bydd pob dull yn cefnogi addysgwyr, ond gyda ffyrdd arbenigol o’u cyflwyno. Bydd y sesiwn yma drwy gyfrwng Saesneg

‘Botheredeness: gweu ymholiad naratif i ddysgu gwych

Yn y sesiwn hon bydd Hywel yn dangos i chi sut i greu cyffro yn eich disgyblion ynglŷn â’u dysgu, a chynhyrchu gwaith gwych fel canlyniad. Bydd y sesiwn yn hwyliog ac ymarferol, defnyddiol ac wedi’i seilio ar realaeth! Mae’r cyfan wedi’i seilio ar brofiadau go iawn mewn dosbarth a’r llyfr llwyddiannus ‘Botheredness.’ Bydd y … Continued

Cam wrth Gam i gael plant i ‘sgwennu Cerddi

Grisiau bach yw dysgu plentyn i drin geiriau nes y bydd yn y diwedd yn cyfansoddi cerdd. Bydd y sesiwn hon yn cyflwyno ymarferion odli, cytseinedd a rhythm, creu llinellau a chreu penillion a fydd yn rhoi hyder i’r dosbarth (a’r athrawon!) gael hwyl gyda geiriau a chwilio am bosibliadau newydd. Ymarferion sylfaenol a chamau … Continued

Newid sy’n mynd i barhau: Gwella Ysgol Gyfan drwy Ymchwil ac Ymholiad Addysgol

Ydych chi’n arweinydd mewn coleg neu ysgol yn edrych ar ffordd i wneud gwelliannau sy’n ‘barhaol’ ac mewn ffordd gadarnhaol drwy gynnwys pob un sy’n gweithio ac ymwneud â’ch rhanddeiliaid? [Uwch Dîm Rheoli,staff dysgu ac ategol,disgyblion,myfyrwyr,rhieni/gwarcheidwaid,Llyodraethwyr] Neu, ydych chi’n gweithio mewn ysgol neu goleg ac yn dymuno i’ch tîm rheoli fod yn eich cynnwys mewn … Continued

Ymateb i gwestiynau anodd wrth drafod perthnasoedd ac addysg rhyw

Un o’r rhesymau pam fod athrawon yn bryderus am addysgu Perthnasoedd ac addysg rhyw ydy sut i ateb y cwestiynau y mae plant a phobl ifanc yn debygol o’u gofyn. “Sut ydw i’n ymateb os ydyn nhw’n gofyn HYNNA!” Bydd y sesiwn ymarferol yma yn ein hatgoffa o bwysigrwydd sefydlu cytundebau grŵp ar ddechrau pob … Continued

Llywio tuag at newid positif yn eich amgylchedd ysgol

Pan rydym ar goll rydym yn defnyddio cwmpawd a map i ddarganfod y ffordd.Defnyddiwch ‘Compass for Life’[CFL] i’ch llywio a’ch arfogi i symud eich ysgol yn ei blaen, mewn dosbarthiadau,cyswllt rhieni,unrhyw agwedd o fywyd ysgol i gyfeiriad positif. Bydd ‘CFL’ yn eich helpu nid yn unig i gael gweledigaeth glir ond i gyfathrebu’n effeithiol gyda’r … Continued