Ydych chi’n delio gyda sgyrsiau a phobl anodd?
Mae’r seminar wedi’i chynllunio ar gyfer y rhai sydd eisiau datblygu hyder a sgiliau ar sut i ddelio â phobl anodd yn y gweithle. Mae cael sgyrsiau anodd neu ddelio â phobl anodd yn gallu creu pwysau gwaith a gorbryder i staff mewn ysgolion a cholegau. Mae’r seminar wedi’i chynllunio i’ch paratoi waeth beth fo’r amgylchiadau ar gyfer eich arfogi i ddelio hefo sefyllfaoedd anodd.
12:00 – 12:50
Seminar ADY
Pam yr ydym angen dull i’n harwain drwy’r angenhion ar gyfer ADY
Too often responses to children who are struggling with learning is to ask, ‘What is wrong with them?’ This deficit model leads to a focus on diagnoses and often misses children’s strengths and motivators. In this seminar, Sara Alston will argue that often the diagnoses given to children are too wide to be truly helpful when identifying their education needs. Instead to provide children with the support they need, we need instead to focus on their needs. She will suggest practical ways of doing this.
Dysgwyr gwydn : o oroesi i ffynnu
Y gwir? Rydym yn dysgu bob math o bethau mewn ysgol heblaw sut i ddysgu. Os nad ydych yn gwybod sut i ddysgu, yna mae’n amhosibl cymryd cyfrifoldeb a hunan-reoli ymddygiadau. Mae ‘gwytnwch’ yn arfogi pob dysgwr i mewn ac allan o’r dosbarth. Bydd Will yn rhannu’r camau a’r cyfnodau sy’n gwarantu i helpu pob plentyn i flodeuo. Gallwn i gyd ddysgu i fod yn well drwy wella’n dysgu. Mae’r sesiwn yma’n arloesol, yn procio’r meddwl ac yn hwyliog.Bydd mynychwyr y cwrs yn cael eu darparu hefo cynllun dysgu deg pwynt ar sut i wneud pethau’n wahanol!
**Wedi gwerthu allan** Llwyddiant i adalw ffeithiau Rhif!!
Mae’r seminar ar gyfer athrawon ac ysgolion sydd yn teimlo nad ydynt eto wedi ’cracio’r system’ i wneud yn siwr y bydd eu plant yn adalw ffeithiau rhif yn sydyn. Bydd y seminar yn edrych ar adalw a diogelu ffeithiau rhif. Dyma’r sylfaen ar gyfer darpariaeth fathemategol unrhyw ysgol Gynradd ,ond sydd yn faes lle mae ysgolion yn profi llai o lwyddiant. Byddwn yn archwilio ffyrdd sy’n wedi’u profi i weithredu adalw ffeithiau lluosi. Nodwedd allweddol o’r seminar fydd edrych ar sut ydym ni’n dysgu adalw ffeithiau rhif, yn hytrach na rhoi cyfleoedd i blant ymarfer.
‘The Four Pillars of Parental Engagement Enabling Pupils to be their Best.’
Mae Karen Dempster a Justin Robbins yn rhannu y ‘Four Pillars of Parental Engagement’ sy’n cryfhau’r cyswllt rhwng rhieni a disgyblion, ynghŷd â datrysiadau ymarferol mewn cyfathrebu rhwng ysgol a rhiant. Wedi ei seilio a lyfr o’r un enw, bydd Karen a Justin yn helpu ysgolion i gymryd agweddau parhaol ynglŷn â chynnwys rhieni fel rhan hanfodol o agwedd yr ysgol tuag at godi safonau. Agwedd fydd yn dechrau hefo gweledigaeth yr ysgol ac fydd yn gosod rhieni ac ysgolion yn gyfartal wrth graidd dysgu’r myfyrwyr.
Karen Dempster, Justin Robbins
‘Compass for Life’- sut i ddod â’r theorïau gorau at ei gilydd-mewn arferion
Yn edrych ar bedwair prif agwedd o’r ‘CFL’ o berspectif personol a phroffesiynol. ‘Super North Star ‘(SNS) - eich gweledigaeth, a ble rydych chi’n mynd ar eich siwrnai. Ethos- eich gwerthoedd a sut mae’r rheini’n effeithio ar eich penderfyniadau. Strategydd-eich cynllun ar sut i ymgyrraedd at eich ‘SNS’ a’r cerrig milltir ar y ffordd. Brwydrwr-y strategaethau meddyliol a ffisegol fydd eu hangen ar gyfer eich taith a’r hyder i wireddu eich cynllun. Bydd ‘CFL’ yn helpu i ddod â holl agweddau damcaniaethol ac ymarferol yr ydych eisioes wedi eu cyffwrdd, a rhoi pecyn cymorth i chi symud ymlaen ar eich taith.
Floyd Woodrow MBE DCM LL.B
Lles: Nid yn unig yn air ffasiynol!
Beth ydy lles ar gyfer ysgol gyfan a sut allwn ni ymgyrraedd ato? Mae’r cyn-athrawes Frederika Roberts wedi bod yn hyfforddi arweinwyr ysgol,athrawon a myfyrwyr am ddegawd mewn ffyrdd sydd yn gwella lles drwy ymarferiadau wedi’u sylfaenu ar dystiolaeth mewn ymchwil i les seicolegol. Mae wedi ysgrifennu/cyd-ysgrifennu a golygu llyfrau ar bositifrwydd, ‘character education’ a lles ysgol gyfan ac mae’n astudio ymchwil mewn doethuriaeth wedi’i seilio ar gryfder prosesau sy’n ymwneud â phawb mewn ysgol i wella lles. Yn y seminar yma bydd yn rhannu ffyrdd syml ac ymarferol i gefnogi eich lles eich hun yn ogystal â’ch cyd-weithwyr a’r myfyrwyr yn eich ysgol neu goleg.
Frederika Roberts MAPP PGCE
**WEDI WERTHU ALLAN** Ioga, Sesiwn Lles i Blant Cynradd
Sesiwn hollol ymarferol yn modelu sut i gynnal sesiwn lles 30 munud ar lawr y dosbarth. Mi fydd y sesiwn yn mynd drwy gynllun syml yn cynnwys ioga, ymarferion anadlu a dulliau ymlacio. Addas ar gyfer addasu o ddosbarth Meithrin i Flwyddyn 6.
**WEDI GWERTHU ALLAN** Dysgu tu allan ar gyfer y Cwrcwlwm Newydd: Cydio a mynd
Gweithdy yn llawn syniadau ymarferol i addysgu gwahanol agweddau o’r cwricwlwm newydd ar gyfer pob oedran cynradd. Mi fyddwn yn arddangos digonedd o weithgareddau atyniadol gan ddefnyddio adnoddau syml,a dangos sut y gall y gweithgareddau gael eu haddasu dro ar ôl tro i leihau amser cynllunio, ond fydd yn creu’r elfen o hwyl! Yn addas ar gyfer y rhai ohonoch sydd yn gyfarwydd â Dysgu Tu Allan ond yn chwilio am syniadau newydd, neu ar gyfer y rhai ohonoch sydd yn dechrau darganfod eich ffordd tuag at ddysgu tu allan yn fwy aml.
Carolyn Burkey, Polly Snape
**WEDI GWERTHU ALLAN** Rwy’n brifo y tu mewn; Gwneud yr Anymwybodol yn Ymwybodol
Mae therapi cerddoriaeth yn newid realiti. Gall cerddoriaeth fywiogi eich hwyliau, lleihau straen/tensiwn yn ogystal â gwella iechyd corfforol. Lle mae plant wedi profi trawma, gellir amharu ar ddatblygiad yr ymennydd, gan arwain at namau gweithredol, sy’n effeithio ar ymddygiad meddyliol, emosiynol ac emosiynol; iechyd. Mewn lleoliad addysg gall hyn fod yn anodd ei reoli oherwydd gall meddyliau a theimladau anymwybodol y plentyn ddod i’r amlwg mewn amrywiaeth o ymddygiadau gan gynnwys; rheoli emosiwn, datgysylltiad gallu gwybyddol, rheolaeth fyrbwyll, hunan-ddelwedd ac anhwylderau bwyta. Gall Therapi Cerdd helpu ac mae’r sesiwn hon yn dangos sut i chi.
Cyflwyniad i raglen datblygu llafaredd Cymraeg ‘Ein Llais Ni – Datblygu Siaradwyr y Dyfodol’
Bwriad Ein Llais Ni yw: amlygu pwysigrwydd llafaredd yng nghwricwlwm yr ysgol ar draws pob maes dysgu a phrofiad ac yng nghyd-destun y Cwricwlwm i Gymru; cynnig syniadau a strategaethau y gallwch eu datblygu er mwyn annog a hybu medrau siarad a gwrando Cymraeg eich dysgwyr yn y dosbarth; darparu canllawiau i unrhyw un sy’n arwain y maes yn yr ysgol er mwyn rhoi lle amlwg a blaenllaw i lafaredd. Wrth i bob ymarferydd roi sylw bwriadus i lafaredd a’r holl ffactorau sy’n gysylltiedig â datblygu medrau siarad a gwrando, fe fydd yn cael effaith gadarnhaol ar hyder a lles dysgwyr, cyfathrebu’n effeithiol gydag eraill a’u cefnogi i ddyfnhau eu dealltwriaeth ar draws y meysydd dysgu. Yn ystod y sesiwn, cewch gyflwyniad i wefan ‘Ein Llais Ni’ sy’n cynnig amrediad o ganllawiau a syniadau i ddatblygu’r amgylchedd ddysgu sy’n rhoi lle blaenllaw i lafaredd ar draws yr ysgol.
Nicola Hughes a Bleddyn Humphreys